Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Charaewch nawr!
Gorffennaf 13, 2026 Hafan The Charity Newyddion Mae staff Ysgol Gyfun Aberaeron wedi cerdded 24 milltir i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae staff Ysgol Gyfun Aberaeron wedi cerdded 24 milltir i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru

5 munud o ddarllen

Rhoddodd staff Ysgol Gyfun Aberaeron eu traed ‘dani i gwblhau her 24 milltir, gan gerdded o Aberystwyth i Geinewydd i godi arian i elusen.

Dechreuodd y tîm yn gynnar ar eu taith noddedig ar hyd arfordir Ceredigion, gan sicrhau nad oedd y tywydd poeth am eu hatal.

Cerddodd y tîm penderfynol ar hyd llwybr yr arfordir, sy’n hardd ac yn heriol ar adegau, gan godi swm anhygoel o £2,528 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd Nia Jones, Pennaeth y Chweched Dosbarth: “Heb os, roedd hi’n her, ond fe wnaethon ni fwynhau’r diwrnod yn fawr. Roedden ni’n ffodus iawn ein bod wedi cael cefnogaeth wych gan fusnesau ac unigolion lleol ar hyd y ffordd. Eu caredigrwydd a’u hanogaeth nhw wnaeth ein hysbrydoli i ddal ati. Roedd yr ymdeimlad o dîm ac ysbryd cymunedol wedi gwneud y diwrnod yn arbennig iawn.

“Roedden ni mor falch ein bod wedi codi £2,158, ond diolch i holl haelioni ein cefnogwyr, mae’r swm hwnnw wedi cyrraedd dros £2,500 erbyn hyn. Mae’n swm anhygoel, ac rydym ni’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu, noddi neu ein cefnogi ar hyd y ffordd.”

Ychwanegodd Nia y byddai’r staff yn hoffi dweud ‘diolch yn fawr’ wrth bawb wnaeth gyfrannu neu eu noddi, ac i’r busnesau a’r unigolion lleol wnaeth eu cefnogi ar y daith. Ychwanegodd: “Mae eu haelioni a’u hanogaeth wedi gwneud cymaint o wahaniaeth, byddai cyflawni hyn wedi bod yn amhosibl hebddyn nhw.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan ymgynghorwyr, gan fynd â thriniaethau safonol ysbyty at gleifion ac, os oes angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf.

Caiff ei darparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG i weithio yng ngherbydau’r Elusen.

Mae’r gofal critigol neilltuol hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed, a chynnal mân lawdriniaethau – i gyd yn y fan a’r lle.

Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd criwiau ymroddedig yr elusen, ble bynnag y maen nhw, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywyd brys.

Wrth feddwl am pam benderfynodd y staff gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru, dywedodd Nia: “Fe wnaethon ni ddewis cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd ei bod yn elusen mor hanfodol sy’n darparu gofal ac yn achub bywydau ledled Cymru, ac roedden ni eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i wasanaeth a allai helpu unrhyw un ohonom ni, ein teuluoedd neu aelod o’n cymuned rhyw ddiwrnod.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn rhoi gwasanaeth amhrisiadwy i gymunedau ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel ein un ni. Mae gwybod bod gofal brys arbenigol yn gallu cyrraedd pobl pan fydd ei angen arnynt fwyaf yn galonogol iawn. Rydyn ni’n falch y bydd ein gwaith codi arian yn helpu’r elusen i barhau i wneud gwaith arbennig yn achub bywydau.”

Yn ddiweddar cafodd Emily Bell, Cydlynydd Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru, gyfle i ymweld â’i hen ysgol, lle cyflwynwyd siec o £2,528 iddi.

Dywedodd Emily: “Braf oedd cael ymweld â’r ysgol a chwrdd â’r tîm a gwblhaodd yr her 24 milltir ar hyd llwybr heriol yr arfordir. Er gwaethaf y tywydd poeth, fe wnaeth pawb roi’r cyfan oedd ganddynt i’w roi i gwblhau’r her a chodi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Dylech chi i gyd fod yn falch iawn ohonoch chi eich hunain. Rydych chi wedi codi swm anhygoel o arian i’n helusen achub bywydau.

“Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £13 miliwn bob blwyddyn i gadw’n hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Bydd ymdrechion codi arian, fel yr un yma, yn sicrhau ein bod ni’n parhau i fod yno i bobl Cymru pan fyddan nhw ein hangen ni fwyaf. Diolch yn fawr pawb.”

Mae amser o hyd i ddangos eich cefnogaeth i staff Ysgol Gyfun Aberaeron drwy gyfrannu ar eu tudalen codi arian: www.justgiving.com/page/ysgol-gyfun-aberaeron-aberaeron-comprehensive-school-4