Apêl Cost Tanwydd
Fuel Cost Increase
Bob dydd, mae ein criwiau’n mynd i’r awyr dros bobl yng Nghymru sy’n cael diwrnod gwaethaf eu bywydau. Pan fydd rhywun yn ddifrifol wael neu’n ddifrifol wedi’i anafu, gall ein hofrenyddion olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth – cyrraedd cleifion, ble bynnag maen nhw, a’u hedfan i’r gofal arbenigol sydd ei angen arnynt ar frys. Mae hyn yn aml yn cynnwys pellteroedd hir.
Ar hyn o bryd, mae’r gost o gadw ein hofrenyddion yn hedfan wedi codi’n sydyn oherwydd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol. Hyd yn oed pe bai’r gwrthdaro yn dod i ben yfory, byddai’r Elusen yn dal i wynebu costau ychwanegol oddeutu £50,000 oherwydd cynnydd parhaus ym mhrisiau tanwydd awyrennau.
Mae hyn yn digwydd ar bwynt pan fydd ein hamser hedfan yn dechrau cynyddu. Mae diwrnodau hirach a thywydd gwell yn golygu mwy o ddefnydd o’n hofrennydd, gyda bywydau yn dibynnu ar ein bod yn barod i ymateb – bob tro y daw’r alwad i mewn.
Rydyn ni’n gwybod bod amseroedd yn anodd i lawer o bobl, ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar am unrhyw gefnogaeth y gallwch ei roi. Bydd rhodd i’n Apêl Costau Tanwydd – pa mor fawr neu fach bynnag yw – yn helpu i dalu’r costau cynyddol hyn a chadw ein criwiau achub bywydau yn yr awyr.
Gyda’ch help, gallwn barhau i fod yno i bobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf.