Mae Sefydliad y Merched Llandyfái wedi codi dros £3,000 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl blwyddyn lwyddiannus o godi arian i’r achos.
Dewisodd y menywod Ambiwlans Awyr Cymru fel Elusen y Flwyddyn ar gyfer 2025-2026 ac yn ddiweddar cyflwynwyd £3,750 i’r Elusen sy’n achub bywydau.
Ymwelodd yr aelodau â phencadlys Ambiwlans Awyr Cymru yn Nafen, lle cawsant eu tywys o amgylch y maes awyr gan Mike May, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol yr elusen.
Diolchodd Mike i’r grŵp a siaradodd â nhw am waith hanfodol Ambiwlans Awyr Cymru. Fe wnaethant hefyd gwrdd â’r Peilot James Gardiner a oedd yn hapus i ddangos yr hofrennydd iddyn nhw ac ateb cwestiynau am y gwasanaeth sy’n achub bywydau.
Drwy gydol y flwyddyn, cynhaliodd y grŵp amrywiaeth o wahanol weithgareddau codi arian gan gynnwys Pawennau ar y Traeth. Roedd y digwyddiad llwyddiannus i gŵn yng nghymuned Sir Benfro wedi codi £1,750. Daeth bron i 100 o gŵn hapus i’r digwyddiad.
Roedd Sefydliad y Merched Llandyfái hefyd wedi cynnal digwyddiadau coffi a chacennau ac wedi codi arian drwy weithgareddau mewn amrywiaeth o sioeau cymunedol yn Sir Benfro.
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei arwain gan ymgynghorwyr, gan fynd â thriniaethau safonol ysbyty at y claf ac, os oes angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf. Fe’i darperir drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.
Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu ymgynghorwyr ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen. Mae’r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed a chynnal mân lawdriniaethau, i gyd yn y fan a’r lle.
Mae’r gofal critigol neilltuol hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed, a chynnal mân lawdriniaethau – i gyd yn y fan a’r lle.
Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd y criwiau ymroddedig, ni waeth ble maent wedi’u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal ar frys i achub bywydau.
Dywedodd Mike May, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer De-orllewin Cymru: Diolch o galon i’r merched am godi’r swm anhygoel o £3,750 i’n helusen Cymru-gyfan. Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth i’n gwasanaeth.
“Roedd hi’n hyfryd croesawu’r merched i’n pencadlys, lle cawsant gyfle i gwrdd â James, un o’n peilotiaid, a chlywed am waith hanfodol Ambiwlans Awyr Cymru.
Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethant gynnal amrywiaeth o wahanol ddigwyddiadau codi arian gan gynnwys y digwyddiad poblogaidd Pawennau ar y Traeth, a oedd yn ddiwrnod gwych i gŵn a’u perchnogion.
Mae angen i’r Elusen godi £13 miliwn bob blwyddyn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Bydd cefnogaeth gan grwpiau fel Sefydliad y Merched Llandyfái yn ein helpu i barhau i fod yno i bobl Cymru pan fydd ein hangen fwyaf arnynt. Diolch yn fawr iawn.”