Ydych chi’n ‘droediwr’ mentrus, a fyddai’n hoffi cymryd rhan mewn digwyddiad codi arian poeth ar gyfer gwasanaeth sy’n achub bywydau? Os felly, mae Llwybrau Tân Ambiwlans Awyr Cymru yn ddelfrydol i chi.
Mae’r llwybr tân yn daith gerdded noddedig wahanol – efallai mai hon fydd y daith gerdded fwyaf byr a phoeth y byddwch yn ei gwneud ond mae angen cryfder meddyliol i oresgyn eich ofnau a chwblhau’r her.
A fyddwch chi’n derbyn yr her i gerdded yn droednoeth dros lo poeth i Ambiwlans Awyr Cymru a’u helpu i godi arian hollbwysig? Er mwyn dathlu 25 mlynedd o Ambiwlans Awyr Cymru, mae’r Elusen yn eich herio i wneud rhywbeth bythgofiadwy.
Dyma’r ail flwyddyn i’r Elusen gynnal digwyddiad codi arian llwybr tân. Yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gymunedol Brychdwn a Bretton, Sir y Fflint, mae’r Elusen wedi sefydlu mwy o leoliadau i bobl allu eu mynychu.
Cynhelir digwyddiadau tanllyd eleni yng Nghlwb Rygbi Y Rhyl ddydd Iau 2 Gorffennaf ac yn Moody Meadows, Aberaeron ddydd Gwener 10 Gorffennaf. Cynhelir y ddau ddigwyddiad rhwng 6pm-10pm.
Mae’r ddau leoliad yn addo awyrgylch trydanol, cefnogaeth anhygoel a noson fythgofiadwy.
Oes gennych chi’r dewrder i droedio’n droednoeth dros 5 metr o golsion coed yn llosgi, sy’n cyrraedd tymheredd o hyd at 800°C. Nid oes unrhyw driciau, dim effaith arbennig – dim ond chi, y tân, ac ymdeimlad aruthrol o gyflawniad pan fyddwch yn cyrraedd yr ochr arall.
Ydych chi’n credu bod gennych yr hyn sydd ei angen i gymryd rhan yn un o’n Llwybrau Tân eiconig ar draws Cymru a phrofi y gall dewrder newid bywydau. Am wybodaeth bellach am sut i gofrestru ewch i https://firewalks.walesairambulance.com/en/
Mae’n rhaid i bawb sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad tanllyd gyda’r nos fod yn 18 oed neu’n hŷn. Mae’n costio £20 i gofrestru a byddwch yn addo codi £100 cyn y digwyddiad, ar gyfer y gwasanaeth sy’n achub bywydau ar hyd a lled Cymru.
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei arwain gan feddygon ymgynghorol, sy’n darparu triniaethau o safon ysbyty i’r claf ac, os bydd angen, eu trosglwyddo yn uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf. I’r claf, gall hyn olygu arbed oriau wrth gymharu â gofal safonol a phrofwyd y gall wella goroesiad ac adferiad cynnar yn sylweddol.
Mae’r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i weinyddu anesthesia, darparu trallwysiadau gwaed a chynnal mân lawdriniaethau, ar leoliad digwyddiad.
Fel gwasanaeth ar gyfer Cymru gyfan, bydd eu criwiau ymroddedig, waeth beth yw eu lleoliad, yn teithio hyd a lled y wlad i ddarparu gofal critigol brys.
Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £13 miliwn bob blwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a’i cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.
Dywedodd Gail Windley, Codwr Arian Digwyddiadau a Phartneriaeth yr Elusen: “Rydym yn falch iawn o lansio ein llwybrau tân eleni yn ystod blwyddyn arbennig pan ydym yn dathlu 25 mlynedd ers ein sefydlu. Bydd codwyr arian yn ymgymryd â’r her eithaf o gerdded dros golsion poeth ac mae angen rhywfaint o ddewrder i’w chwblhau.
“Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ar gerddwyr i gymryd rhan yn y llwybr tân, oherwydd darperir yr holl hyfforddiant ar y dydd. Rydym eisiau pwysleisio nad yw’r gweithgarwch hwn yn un i roi cynnig arno gartref a dylid ond ei gwblhau yn ystod digwyddiad sydd wedi’i drefnu’n broffesiynol.
“Mae’r Elusen yn ddibynnol ar roddion er mwyn parhau i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd. Bydd digwyddiadau codi arian, fel llwybrau tân, yn helpu’r gwasanaeth hwn sy’n achub bywydau i barhau i wasanaethu pobl Cymru. Bydd yn ddiwrnod bythgofiadwy i’r cyfranogwyr a’u cefnogwyr. Beth am gofrestru a gwneud gwahaniaeth a fydd yn achub bywydau.”
Bydd cerddwyr yn derbyn gwybodaeth gan arbenigwr cyn yr her. Ni chaniateir i gyfranogwyr yfed alcohol cyn y digwyddiad.