Fe wnaeth tîm sy’n cynrychioli adrannau o bob rhan o Ysbyty Werndale — o dimau gweinyddol a chlingiol i staff theatr — gamu i ffwrdd o’u rolau arferol ar ddydd Mawrth 12 Mai, i gymryd rhan mewn ymgyrch a oedd yn dod â nhw’n nes at y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethau ledled Cymru. Aethon nhw ar ymweliad i bencadlys Ambiwlans Awyr Cymru, Dafen, Llanelli, i ddiolch yn bersonol i’r rheini sy’n helpu i gadw’r gwasanaeth achub bywyd i fynd.
Gan gymryd rhan mewn ymgyrch arbennig i ddweud diolch, treuliodd staff amser yn ysgrifennu llythyrau â llaw at gefnogwyr yr elusen ledled y wlad, gan gydnabod yr unigolion, y teuluoedd a’r sefydliadau sydd wedi cadw’r gwasanaeth i fynd oherwydd eu haelioni.
Roedd arwyddocâd arbennig i’r ymweliad, i ysbyty sy’n gwasanaethu cleifion o bob cwr o Gymru.
Er bod Cymru’n gartref i ddinasoedd a threfi bywiog, mae ei thirweddau gwledig ac arfordirol helaeth yn rhan fawr o’i hunaniaeth hefyd. Mae ganddi ddaearyddiaeth gymhleth ac mae Ambiwlans Awyr Cymru yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddod â gofal lefel ysbyty, uwch, yn uniongyrchol i gleifion, lle bynnag y maent ledled y wlad.
Mae nifer o bobl sy’n gysylltiedig ag Ysbyty Werndale yn teimlo pwysigrwydd y gwasanaeth hwnnw’n broffesiynol ac yn bersonol.
Mae’r ymweliad hefyd yn garreg filltir bwysig mewn partneriaeth barhaus. Ers 2023, mae Ysbyty Werndale, sy’n rhan o Circle HealthGroup, wedi codi dros £20,000 i’r elusen – diolch i ymdrechion ar y cyd staff, ymgynghorwyr, cleifion a chefnogwyr ledled Cymru.
Mae codi arian wedi dod yn ymdrech ar y cyd, o fentrau a gefnogir gan y gymuned fel Raffl Adfent Nadolig boblogaidd yr ysbyty i heriau unigol fel Hanner Marathon Caerdydd, lle dangosodd wyth aelod o dîm Werndale ymroddiad eithriadol. Mae cefnogaeth gan bartneriaid, gan gynnwys Rygbi’r Scarlets a busnesau lleol, wedi cryfhau’r ymdrechion hyn ymhellach.
Ond roedd ymweld â Dafen yn golygu mwy na dim ond cyfansymiau codi arian.
Roedd yn gyfle i gymryd saib a myfyrio ar y bobl y tu ôl i’r rhoddion — cymunedau ledled Cymru y mae eu cymorth yn golygu bod modd darparu gofal cyflym ac arbenigol i gleifion ble bynnag y maent, pan fydd ei angen arnynt fwyaf.
Dywedodd Jessica Price, Rheolwr Gwerthu a Marchnata yn Ysbyty Werndale:
“Fel ysbyty sy’n gwasanaethu cymunedau ledled Cymru, rydyn ni’n deall pa mor bwysig yw mynediad amserol at ofal, yn enwedig i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy gwledig neu anghysbell. Mae gwasanaethau fel Ambiwlans Awyr Cymru yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod cleifion yn gallu cael triniaeth frys ac arbenigol yn ddi-oed.
“Roedd treulio amser yng nghanolfan Dafen a chymryd rhan yn yr ymgyrch dweud diolch yn brofiad hyfryd. Y tu ôl i bob rhodd mae person sy’n dewis gwneud gwahaniaeth, a hynny’n aml i rywun nad yw byth yn cwrdd ag ef. Roedd ysgrifennu’r llythyrau hynny’n ffordd fach ond pwysig inni gydnabod yr haelioni hwnnw.
“Rydyn ni’n hynod falch o fod wedi codi dros £20,000 gyda’n gilydd. Mae’n adlewyrchu’r cryfder, y caredigrwydd a’r ysbryd cymunedol rydyn ni’n ei weld ledled Cymru bob dydd.”
Mae’r fenter yn rhan o addewid Giving Something Back Circle Health Group (GSB@CHG), sy’n cefnogi elusennau a sefydliadau cymunedol drwy godi arian, gwirfoddoli ac ymgysylltu lleol.
Ychwanegodd Andre Bothma, Cyfarwyddwr Gweithredol yn Ysbyty Werndale:
“Rwy’n hynod falch o’n tîm a’n cymuned leol am ein helpu i gyrraedd y garreg filltir hon. Mewn rhanbarthau gwledig fel ein un ni, does dim modd gorbwysleisio rôl Ambiwlans Awyr Cymru – mae’n dod â gofal critigol i gleifion pan fydd amser a phellter yn eu herbyn.
“Roedd yr ymweliad hwn yn ffordd bwerus o’n hatgoffa o’r effaith y mae cymorth wedi’i chael, nid yn unig o ran y swm a godwyd, ond o ran sicrhau bod pobl ledled Cymru yn gallu cael gafael ar driniaeth sy’n achub bywydau pan fydd ei hangen arnyn nhw fwyaf.”
Dywedodd Mike May, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol yr Elusen ar gyfer De-orllewin Cymru:
Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i bawb yn Ysbyty Werndale am eu hymrwymiad, eu haelioni a’u cefnogaeth barhaus. Roedd eu hymweliad â’n canolfan yn Nafen a’u rhan yn yr ymgyrch dweud diolch yn ffordd bwerus o’n hatgoffa o’r tosturi sydd wrth galon ein cymunedau ledled Cymru.
“O godi arian i ddiolch yn bersonol i’n cefnogwyr, mae ymdrechion y tîm yn adlewyrchu’r ysbryd o bartneriaeth sy’n helpu i wneud ein gwasanaeth yn bosibl bob dydd. Wrth i ni ddathlu pen-blwydd ein helusen yn 25 oed yn 2026, diolch i sefydliadau fel Ysbyty Werndale y gallwn barhau i ddarparu gofal critigol lefel uwch sy’n achub bywydau i bobl lle bynnag maen nhw, pan fydd ei angen arnyn nhw fwyaf. Maen nhw wir yn achub bywydau.“
Wrth i dîm Werndale adael Dafen, roedden nhw’n gadael eu negeseuon ar ôl – rhai bach, meddylgar sy’n adlewyrchu cyd-ddealltwriaeth: nad yw mynediad at ofal brys bob amser yn syml, ond drwy ymdrech ar y cyd, gall gyrraedd y rheini sydd ei angen fwyaf, lle bynnag y maent yng Nghymru.