A grateful mum and dad have raised over £6,000 for two important causes after their son suffered a devastating burns injury.
Mae Paige a Jamie, rhieni Vinnie Whyatt, sy’n 23 mis oed, wedi codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a’r Ymddiriedolaeth Llosgiadau Plant drwy gynnal digwyddiad elusennol a chymryd rhan yn ras 10 cilomedr y Great Bristol Run.
Roedd y digwyddiad codi arian Elusennol llwyddiannus, a gynhaliwyd yn The Welfare, Glynebwy, yn cynnwys cerddoriaeth fyw gan Rebecca Woodward a raffl elusennol fawr. Hyd yma, mae Paige a Jamie wedi llwyddo i godi swm anhygoel o £6,071, a bydd yr holl elw yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y ddwy elusen.
Yn ogystal â’r noson elusennol, gwisgodd Paige a Jamie eu hesgidiau rhedeg yn ddiweddar i gymryd rhan yn ras 10 cilomedr y Great Bristol Run.
Dywedodd Paige: “Yn Ebrill 2025, dioddefodd ein mab Vinnie llosgiadau difrifol. Ar ddiwrnod y ddamwain, galwyd Ambiwlans Awyr Cymru i fynychu a darparu gofal ar unwaith i achub bywyd ein bachgen bach.
“Cafodd Vinnie ei drin gan y tîm yn y fan a’r lle ac yna fe wnaethant deithio yn yr ambiwlans gydag ef nes i’w ofal gael ei drosglwyddo i’n tîm anhygoel yn Ysbyty Plant Bryste, a barhaodd i ddarparu gofal rhagorol i achub ei fywyd.
“Eleni, roedd Jamie a minnau yn awyddus i barhau i roi yn ôl. Roeddem eisiau codi arian hanfodol ar gyfer y ddwy elusen sydd wedi bod yn allweddol i ni.”
Nid dyma’r tro cyntaf i’r rhieni godi arian; y llynedd, fe wnaethant godi arian ar gyfer Ward Daisy yn Ysbyty Plant Bryste ar ôl i Vinnie dderbyn triniaeth yno yn dilyn ei ddamwain. Dywedodd y teulu bod caredigrwydd nyrsys Vinnie wedi ysbrydoli ei rieni i ddechrau ar eu taith eu hunain i godi arian.
Treuliodd Vinnie bach 51 diwrnod yn Ysbyty Plant Bryste cyn dychwelyd adref i barhau i wella.
Dywedodd Paige: “Mae ychydig dros flwyddyn ers damwain Vinnie erbyn hyn, ac er y byddwn yn parhau i fynychu Ysbyty Plant Bryste yn rheolaidd er mwyn iddo barhau i dderbyn gofal parhaus ar gyfer ei greithiau, mae’n parhau i fod y bachgen bach mwyaf hapus a hwyliog.
“He loves being a “typical” boisterous boy, always exploring, playing outside, and driving his toy cars around!”
Yn dilyn eu ras 10 cilomedr lwyddiannus, bydd chwaer Vinnie, Connie, a’i thîm pêl-droed ‘anhygoel’ yn dringo Pen y Fan fel digwyddiad ychwanegol i godi arian, a fydd yn dynodi diwedd ymdrechion codi arian y teulu am y flwyddyn.
Er hynny, mae’r teulu yn gobeithio parhau i gefnogi’r ddwy “elusen anhygoel” yn y dyfodol.
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan ymgynghorwyr, gan fynd â thriniaethau safonol ysbyty at gleifion ac, os oes angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf.
Mae’n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion cyhoeddus er mwyn codi’r £13 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw’r hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.
Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG i weithio yng ngherbydau’r Elusen.
Mae’r gofal critigol neilltuol hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed, a chynnal mân lawdriniaethau – i gyd yn y fan a’r lle.
Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd criwiau ymroddedig yr elusen, ble bynnag y maen nhw, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywyd brys.
Wrth adlewyrchu ar bwysigrwydd yr Elusen Cymru gyfan, dywedodd Paige: “Byddwn yn ddiolchgar am byth i feddygon a chriw Ambiwlans Awyr Cymru a fynychodd y diwrnod hwnnw a wnaeth helpu i achub bywyd ein bachgen bach. Mae’r gofal maent yn ei ddarparu i achub bywydau ledled Cymru yn hollbwysig, ac ni allwn ddisgrifio mewn geiriau pa mor allweddol yw eu gwasanaeth i gymaint o deuluoedd.
“Ni fydd byth digon o eiriau i allu diolch i’r tîm gwych am bopeth a wnaethant i Vinnie ac i’n teulu. Yr ydym ond yn gobeithio y bydd yr arian sydd wedi’i godi yn helpu i sicrhau y gallant barhau i fod yna ar gyfer y teulu nesaf sydd eu hangen.
“I bob person yn Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, diolch i chi! Bydd gennych le arbennig iawn yn ein calonnau am byth.”
Dywedodd Phae Jones, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm yr Elusen: “Diolch yn fawr iawn i Paige a Jamie am godi arian i ddau achos pwysig iawn sy’n agos i’w calonnau. Er gwaethaf profiad y teulu, mae’n destun edmygedd eu bod wedi bod eisiau codi arian i’r gwahanol elusennau a wnaeth helpu Vinnie. Mae’n hyfryd clywed bod Vinnie yn parhau i fod yn fachgen hapus a llawn hwyl, a dymunwn yn dda iddo gyda’i ofal parhaus.
“Dylai Paige a Jamie fod yn falch iawn o’r swm anhygoel o arian maen nhw wedi’i godi ar gyfer y ddwy elusen. Rydym yn ddiolchgar iawn, ar ôl i Vinnie fod angen gofal Ambiwlans Awyr Cymru, bod y teulu eisiau rhoi rhywbeth yn ôl.
“Bydd pobl fel y rhain sy’n codi arian yn sicrhau bod Ambiwlans Awyr Cymru yn parhau i fod yno i bobl Cymru pan fyddant ein hangen fwyaf. Diolch i Paige, Jamie a phawb sydd wedi cefnogi eu taith codi arian. Rydych i gyd wedi chwarae rôl bwysig yn ein helpu i achub mwy o fywydau ledled Cymru. Diolch yn fawr.”
Os hoffech gefnogi teulu Vinnie i godi arian, gallwch roi drwy eu tudalen codi arian www.givewheel.com/fundraising/12833/raising-funds-for-the-wales-air-ambulance-charity-/