Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Charaewch nawr!
Mehefin 1, 2026 Hafan The Charity Newyddion Cwpl yn ymweld â phencadlys Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl eu her nofio rhewllyd

Cwpl yn ymweld â phencadlys Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl eu her nofio rhewllyd

Straeon Cymunedol
5 munud o ddarllen

Mae cwpl a gwblhaodd chwe ras nofio mewn dyfroedd rhewllyd yn y Ffindir heb wisgoedd nofio wedi ymweld â’r elusen roedden nhw’n codi arian ar ei chyfer.

Teithiodd Alistair Bell a Beth Robart i Oulu i wynebu her y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ei hosgoi.

Cynhelir Pencampwriaeth Nofio’r Byd (Gaeaf) ddwywaith y flwyddyn, a chymerodd y ddau ddewr ran yn y bencampwriaeth eleni rhwng 2 ac 8 Mawrth.

Er gwaethaf yr amodau rhewllyd, a oedd yn golygu eu bod yn nofio mewn tymheredd o -0.5oC ar y diwrnod oeraf, gyda thymheredd yr aer yn -13oC, llwyddodd y ddau i gwblhau’r gystadleuaeth i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Alistair wedi arfer nofio mewn dyfroedd rhewllyd; mae wedi nofio mewn cystadlaethau yn yr Arctig ac Ewrop yn ystod y naw mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, cafodd Beth, o Abertawe, ei bwrw yn syth i’r dwfn, ym Mhencampwriaeth Nofio’r Byd (Gaeaf) 2026.

Yn dilyn eu her lwyddiannus, gwahoddwyd Alistair a Beth i bencadlys yr Elusen yn Nafen, lle cawsant gyfle i gwrdd â staff Ambiwlans Awyr Cymru a chyflwyno’r swm anhygoel o £2,175 a godwyd ganddynt i’r Elusen.

Mae Alistair a Beth ill dau yn gweithio yn y sector trawma ac yn dweud ei bod yn debygol y byddai Ambiwlans Awyr Cymru wedi achub eu cleientiaid ac mai dyna pam eu bod wedi dewis cefnogi’r Elusen.

Dywedodd Alistair, o Ddinbych-y-pysgod: “Fe gawson ni amser wrth ein bodd, ac roedden ni’n falch ein bod wedi gallu gweld y ganolfan. Rydyn ni wedi sôn y bydd yn rhaid i ni gynnal digwyddiad codi arian arall ar gyfer yr Elusen yn y dyfodol.“

Wrth feddwl am y swm gwych mae’r ddau wedi’i godi, dywedodd Alistair: “Rydyn ni’n falch iawn o’r swm rydyn ni wedi’i godi ac yn ddiolchgar iawn am haelioni cydweithwyr a chwmnïau yn y sectorau iechyd a chyfreithiol. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi ein cefnogi ni.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan ymgynghorwyr, gan fynd â thriniaethau safonol ysbyty at gleifion ac, os oes angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf.

Fe’i darperir drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.

Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG i weithio yng ngherbydau’r Elusen.

Mae’r gofal critigol neilltuol hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed, a chynnal mân lawdriniaethau – i gyd yn y fan a’r lle.

Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd criwiau ymroddedig yr elusen, ble bynnag y maen nhw, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywyd brys.

Dywedodd Mike May, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru: “Roedd hi’n hyfryd croesawu Alistair a Beth i bencadlys ein helusen ar ôl iddyn nhw godi swm anhygoel o arian. Roedd yn wych eu bod wedi cael cyfle i glywed popeth am yr Elusen a sut bydd eu hymdrech yn gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru.

“Roedd y pâr penderfynol wedi ymgymryd â her na fyddai’r rhan fwyaf o bobl eisiau meddwl amdani, heb sôn am ei gwneud, ac fe wnaethon nhw lwyddo! Dylen nhw fod yn falch iawn o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni.

“Diolch i Alistair a Beth am ymgymryd â’r her rewllyd hon ac am ddewis codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae’r Elusen yn dibynnu ar gyfraniadau cyhoeddus i godi’r £13 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Bydd ymdrechion codi arian, fel yr un yma, yn ein galluogi ni i fod yno i bobl Cymru pan fyddan nhw ein hangen ni fwyaf.“