Bydd rhodd ddwbl caredig yn helpu i achub bywydau ar ôl i barc carafannau roi arian a gasglwyd ganddynt tuag at ddiffibriliwr i Ambiwlans Awyr Cymru.
Roedd trigolion Parc Carafannau Fferm Erwbarfe wedi casglu £1,300 tuag at ddiffibriliwr i’r maes carafannau.
Fodd bynnag, rhoddodd Alun a Shan Jenkins, a oedd yn rhedeg Caffi Two Hoots ym Mhontarfynach, ddiffibriliwr i’r parc.
Caeodd yr Ystafell De ei drysau y llynedd, ar ôl 34 o flynyddoedd llwyddiannus.
Yn dilyn y rhodd, penderfynodd y preswylwyr wedyn eu bod am roi’r £1,300 i’r elusen achub bywydaqu.
Yn ystod y penwythnos gŵyl banc heulog diweddar, cafwyd lansiad swyddogol i ddiffibriliwr y parc yn swyddogol gyda the prynhawn traddodiadol, gyda digon o frechdanau a chacennau blasus.
Gofynnwyd i drigolion hiraf y parc, Edwin ac Angela Hobbiss, dorri’r rhuban yn swyddogol ar y diwrnod arbennig. Mae Edwin ac Angela wedi bod yn aros yn y parc ers dros 50 mlynedd.
Dywedodd Bryn Jones, perchennog y parc: “Roedd y trigolion wedi codi arian i brynu’r diffibriliwr, ond daeth Alun a ShanJenkins atom, a buont yn ddigon caredig i roi eu diffibriliwr i’r parc.
“Roedd hi’n hyfryd gweld trigolion y parc yn ymgynnull y tu allan i’r swyddfa i lansio diffibriliwr y parc yn swyddogol! Cynhaliwyd te prynhawn traddodiadol gyda digon o frechdanau a chacennau.
“Diolch i bawb a ddaeth draw i’w wneud yn brynhawn mor hyfryd a diolch i’r teulu a’r ffrindiau a helpodd gyda’r holl baratoadau.”
Mae’r diffibriliwr bellach wedi’i leoli yn y blwch ffôn gwreiddiol K6 jiwbilî a brynodd Gwynn a Beatrice i’r parc ar ddechrau’r 80au ac a adferwyd gan Bryn.
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei arwain gan feddygon ymgynhorol, gan fynd â thriniaethau safonol ysbyty at gleifion ac, os oes angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.
Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG i weithio yng ngherbydau’r Elusen.
Mae’r gofal critigol neilltuol hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed, a chynnal mân lawdriniaethau – i gyd yn y fan a’r lle.
Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd criwiau ymroddedig yr elusen, ble bynnag y maen nhw, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywyd brys.
Gwahoddwyd Emily Bell, Cydlynydd Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer yr ardal, i’r parc ar gyfer yr achlysur arbennig a chyflwynwyd yr arian a godwyd gan y preswylwyr iddi.
Dywedodd Emily Bell: “Diolch o galon i drigolion Parc Carafannau Fferm Erwbarfe am ddewis rhoi’r arian roedden nhw wedi’i godi tuag at ddiffibriliwr i’n helusen achub bywydau. Diolch i Shan ac Alun Jenkins am roi’r diffibriliwr i’r maes carafannau. Bydd y ddwy rodd hyn yn achub bywydau.
“Mae Shan ac Alun wedi bod yn gefnogwyr gwerthfawr i Ambiwlans Awyr Cymru, ac mae’n wych, ar ôl cau eu hystafell de, bod eu rhodd hael wedi galluogi’r arian a godwyd gan y trigolion i gael ei roi i’n Helusen.
“Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar gyfraniadau cyhoeddus i godi’r £13 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Drwy roddion fel hyn, gallwn barhau i gefnogi i bobl Cymru, pryd bynnag a ble bynnag y bydd ein hangen arnynt. Mae pob ceiniog yn helpu i achub bywydau!”