Mae Booker Cardiff wedi cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru drwy hyrwyddo brand yr elusen ar un o’i lorïau HGV.
Mae’r lori yn ôl ar y ffyrdd erbyn hyn ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r Elusen ledled Cymru.
Bydd Booker Cardiff hefyd yn defnyddio’r lori i gefnogi’r Elusen gyda chludiant yn ystod ei digwyddiad Beicio 100km ddydd Sul 6 Medi.
Roedd y cwmni’n awyddus i gefnogi’r Elusen hon, sy’n gweithio ledled Cymru, ar ôl i’r criw gael eu galw at aelodau o deulu Steve Hughes yn 2022.
Ar eu ffordd adref o drip siopa oedd mam a nith Steve pan ddigwyddodd y ddamwain ar y ffordd.
Dywedodd Steve, Uwch Glerc Gweithrediadau yn Booker Cardiff: “Yn anffodus doedd dim modd achub fy mam na fy nith. Deliodd Ambiwlans Awyr Cymru â sefyllfa heriol yn wych, gan ddangos y parch mwyaf at ein teulu.
“Mae’n hanfodol bod elusen mor bwysig ag Ambiwlans Awyr Cymru yn cael y cyllid a’r ymwybyddiaeth sydd eu hangen arni i ddal ati i ddarparu gwasanaeth mor arbennig i bobl Cymru.”
Mae Steve yn ddiolchgar bod Booker Cardiff yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r Elusen. Dywedodd: “Hoffwn ddiolch hefyd i Booker am roi’r cyfle hwn i ni fod yn eiriolwyr dros yr elusen hon, gan wneud rhywbeth sydd heb gael ei wneud o’r blaen gan Booker. Efallai nad yw brandio cerbyd yn golygu llawer i rai pobl, ond i ni, dyma’r ffordd berffaith o ddangos ein cefnogaeth a pharhau i godi ymwybyddiaeth o wasanaeth mor hanfodol.”
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan ymgynghorwyr, gan fynd â thriniaethau safonol ysbyty at gleifion ac, os oes angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf. Fe’i darperir drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.
Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar gyfraniadau cyhoeddus i godi’r £13 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw’r hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.
Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG i weithio yng ngherbydau’r Elusen.
Mae’r gofal critigol neilltuol hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed, a chynnal mân lawdriniaethau – i gyd yn y fan a’r lle.
Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd criwiau ymroddedig yr elusen, ble bynnag y maen nhw, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywyd brys.
Dywedodd Phae Jones, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr i bawb yn Booker Cardiff. Rydym ni wir yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth. Braint o’r mwyaf oedd clywed bod Steve eisiau i Booker gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl iddo golli ei fam a’i nith yn drasig, a dyma ffordd wych o wneud hynny.
“Mae’r lori’n edrych yn wych. Fedrwch chi ddim ei cholli hi, a bydd hi’n codi ymwybyddiaeth o Ambiwlans Awyr Cymru i bawb ar y ffyrdd. Rydym ni hefyd yn falch iawn bod y cwmni wedi addo ein cefnogi yn ystod ein digwyddiad Beicio 100km ym mis Medi.
“Diolch yn fawr iawn i bawb yn Booker Cardiff am godi ymwybyddiaeth o’n helusen ar ei chwarter canmlwyddiant.”