Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Charaewch nawr!
Ebrill 7, 2026 Hafan The Charity Newyddion Menyw a gafodd wybod na fyddai efallai’n cerdded eto yn cwblhau Hanner Marathon Caer

Menyw a gafodd wybod na fyddai efallai’n cerdded eto yn cwblhau Hanner Marathon Caer

Straeon Cymunedol
5 munud o ddarllen

Mae menyw ysbrydoledig o Gaer, y dywedwyd wrthi na fyddai efallai’n cerdded eto ar ôl cael damwain, wedi cwblhau Hanner Marathon Caer fel diolch i feddygon Ambiwlans Awyr Cymru a helpodd i achub ei bywyd.

Ym mis Awst 2017, roedd Christine Lloyd yn ymweld â Chymru pan gafodd y car roedd hi’n teithio ynddo ei daro’n annisgwyl gan dractor.

Cafodd ochr teithiwr y car ei wasgu gan rym llawn y gwrthdrawiad, gan ddal Christine yn y cerbyd am dros awr.

Yn dilyn y gwrthdrawiad, roedd Christine yn ymladd am ei bywyd ac roedd arni angen cymorth Ambiwlans Awyr Cymru.

Bu meddygon yr Elusen ddarparu gofal cyn mynd i’r ysbyty i Christine ar ochr y ffordd, ac yna ei chludo yn yr ambiwlans awyr i’r Ganolfan ar gyfer Trawma Mawr yn Ysbyty Athrofaol Stoke.

Roedd anafiadau Christine yn cynnwys gwaedu mewnol mawr a gwaedu ar yr ymennydd. Roedd ganddi hefyd dorasgwrn agored yn ei braich dde, tair asen wedi torri ac roedd ei chefn wedi torri mewn sawl lle.

Oherwydd ei hanafiadau, cafodd sawl llawdriniaeth ac roedd gwella yn daith hir o’i blaen.

Dywedodd Christine, 39: “Doedd fy meddygon ddim yn gwybod a fyddwn i byth yn cerdded eto, felly fe wnaethon nhw benderfynu gwneud llawdriniaeth ar fy asgwrn cefn. Cefais chwe awr arall o lawdriniaeth i ailadeiladu fy asgwrn cefn. Gweithiodd llawfeddygon yn ddiflino i adeiladu ffrâm fetel o amgylch fy asgwrn cefn, gyda’r gobaith o allu cerdded eto.”

Er gwaethaf ei phoen cronig dyddiol, penderfynodd Christine, sy’n un o dri gefaill, sefyll wrth y llinell gychwyn gyda’i brawd Edward i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caer, a gwblhaodd mewn 2 awr a deg munud anhygoel.

Wrth feddwl am ‘ras ei bywyd’, dywedodd y ferch fferm: “Fe wnaeth fy holl hyfforddiant dalu ar ei ganfed, a dyna beth roeddwn i ei eisiau. Llwyddais i redeg yn dda, yn gadarn ac yn ddi-stop. Roedd fy amser swyddogol yn 2 awr a deng munud. Fel y gwnaethon ni addo, fe llwyddon ni wneud hynny mewn steil!

Roedd yn anrhydedd mawr rhedeg ar ran Ambiwlans Awyr Cymru ar ei phen-blwydd yn 25 oed. Rwy’n gobeithio y bydd fy ymdrech yn dod yn symbol o obaith i lawer.

Mae rhedeg ochr yn ochr â fy mrawd tripled yn rhywbeth y byddaf yn ei drysori am byth. Roedd Edward yn bennyn cyflymder gwych hefyd gan fy mod wedi hedfan yr 8 milltir gyntaf, felly roedd yn rhaid i mi bwyllo ar ôl hynny!”

Ychwanegodd Christine ei bod yn anodd egluro pa mor arbennig oedd cwblhau’r orchest enfawr hon, ond fe ddywedodd:

“I unrhyw un sy’n byw bob dydd gydag anaf sylweddol, cronig sy’n newid bywyd. Rwy’n gwybod nad yw’n hawdd, rwy’n gwybod nad yw’r boen byth yn dod i ben. Ond, gyda chymeriad a chalon fawr, rwy’n gwybod y gallwn ni fod yn llawer mwy nag ein hanafiadau yn unig. Yn hytrach, gallwn ddewis dyfalbarhau. Troi ein poen yn bwrpas, gan oleuo’r ffordd i eraill.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan ymgynghorwyr, gan fynd â thriniaethau safonol ysbyty at gleifion ac, os oes angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf. Fe’i darperir drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar gyfraniadau cyhoeddus i godi’r £13 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw’r hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG i weithio yng ngherbydau’r Elusen.

Mae’r gofal critigol neilltuol hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed, a chynnal mân lawdriniaethau – i gyd yn y fan a’r lle.

Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd criwiau ymroddedig yr elusen, ble bynnag y maen nhw, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywyd brys.

Mae Christine mor frwd dros Ambiwlans Awyr Cymru, yn ogystal â chwblhau Hanner Marathon Caer, ers ei damwain mae hi wedi codi arian mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd ar gyfer yr Elusen.

Ychwanegodd Christine: “Heb Ambiwlans Awyr Cymru, fyddwn i ddim wedi goroesi’r ddamwain car. Rwy’n eu parchu a’u hedmygu gymaint. Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi cyflawni llawer o lwyddiannau gyda’n gilydd. Roedd y ras hon yn ddathliad o’r gwaith anhygoel y mae’r Elusen yn parhau i’w wneud, ac mae hefyd yn arwydd o’m cryfder fy hun dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n ddathliad o frwydro drwy rai diwrnodau eithriadol o anodd.

Mae arna i bopeth i’r Ambiwlans Awyr Cymru. Rydyn ni’n rhannu cysylltiad personol dwfn!

Rwy’n dystiolaeth fyw o’r gofal anhygoel o safon fyd-eang maen nhw’n ei ddarparu.”

Dywedodd Debra Sima, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau i Christine am lwyddo i redeg Hanner Marathon Caer ac am gwblhau’r ras mewn amser anhygoel, er gwaethaf ei phoen cronig dyddiol. Mae Christine yn ysbrydoliaeth wirioneddol, a gobeithio ei bod yn sylweddoli pa mor arbennig ydyw. Er gwaethaf yr hyn mae hi wedi bod drwyddo, roedd hi eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i Ambiwlans Awyr Cymru, sy’n anhygoel.

Mae’n rhyfeddol bod Christine, ar ôl cael gwybod na fyddai hi efallai’n cerdded eto, wedi cwblhau hanner marathon ar gyfer elusen.

Mae Christine yn gwybod yn uniongyrchol pa mor bwysig yw ein gwasanaeth ac mae hi wedi codi £1,200 anhygoel i’n Helusen hyd yma.

Diolch i chi, Christine. Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth barhaus, ac mae’r hyn rydych chi’n ei wneud bob dydd yn rhyfeddol. Diolch o galon i’w brawd Edward sydd wedi cefnogi Christine gyda’r her codi arian hon. Drwy gymryd rhan yn Hanner Marathon Caer, mae Christine wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o achub bywydau ledled Cymru.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Christine drwy gyfrannu at ei thudalen codi arian www.justgiving.com/page/christine-lloyd-3