Bydd Acwathlon Llanfair-ym-Muallt yn cael ei gynnal fis nesaf er budd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.
Yn dilyn llwyddiant y ddau ddigwyddiad blaenorol, mae Acwathlon Llanfair-ym-Muallt yn ôl am y drydedd flwyddyn, a’r tro hwn gydag ychwanegiad mymryn yn wahanol – ras gyfnewid.
Cynhelir y digwyddiad yn Y Groe, ddydd Sul 9 Awst 2026, lle bydd cyfle i unigolion gymryd rhan yn y tri digwyddiad elusennol.
Yn y digwyddiad eleni, bydd tri digwyddiad i ddewis o’u plith – gall unigolion nofio 200m yn y pwll (hyd y pwll 8 gwaith) ac yna redeg 3k, neu nofio 400m yn y pwll (hyd y pwll 16 gwaith) ac yna redeg 5k. Neu gall timau o ddau gymryd rhan yn y ras gyfnewid – bydd un person yn nofio 400m, a bydd y llall yn rhedeg 5k. Rhaid i gyfranogwyr fod yn 13 oed neu’n hŷn (ar 31.12.26) i gymryd rhan yn y ras fer, a rhaid i gyfranogwyr fod yn 15 oed neu’n hŷn (ar 31.12.26) i gymryd rhan yn y ras hir a’r ras gyfnewid.
Bob blwyddyn, mae Acwathlon Llanfair-ym-Muallt wedi denu rhwng 70 a 80 o gyfranogwyr. Yn y digwyddiad y llynedd, roedd oedran y rhai a gymerodd ran yn amrywio o 12 i 81, felly mae wir yn ddigwyddiad na ddylid ei golli i bob oedran a gallu. Bydd medal i bawb sy’n gorffen a gwobrau i’r enillwyr ym mhob categori oedran.
Unwaith eto, mae’r digwyddiad poblogaidd wedi cael cefnogaeth gan fudiadau lleol sydd wedi rhoi cymorth ariannol i helpu i sicrhau y gall y digwyddiad fynd rhagddo.
Dywedodd Helen Tuite, cyd-drefnydd yr Acwathlon: “Rydyn ni mor ddiolchgar i Charcroft Electronics yn Llanwrtyd am eu cynnig hael i fod yn brif noddwr ar gyfer yr Acwathlon eleni. Hoffem ddiolch iddyn nhw a’r holl fudiadau lleol eraill sydd wedi ein helpu ni eleni.”
Dywedodd Vicky Mellor, Cyfarwyddwr Charcroft, “Rydyn ni’n falch o allu cefnogi Acwathlon Llanfair-ym-Muallt, digwyddiad sy’n dod â phobl o bob cwr o’r gymuned at ei gilydd mewn ffordd mor bositif a chynhwysol. Mae digwyddiadau fel hyn yn annog cyfranogiad, llesiant a chysylltiadau lleol. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gwasanaeth hanfodol i’n cymunedau, ac rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni’n gallu cefnogi digwyddiad sy’n helpu i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer achos mor bwysig.”
Dywedodd Adam Johnstone, cyd-drefnydd yr Acwathlon: “Rydyn ni eisiau gwneud y digwyddiad mor hygyrch â phosib, ac annog mwy o bobl i gymryd rhan. Felly, rydyn ni wedi sefydlu sesiynau ‘rho gynnig arni’ ym Mhwll Nofio Llanfair-ym-Muallt – bob dydd Gwener ym mis Gorffennaf rhwng 6:30pm a 7:30pm.
“Gallwch chi nofio hyd y pwll ddwy waith neu 50 o weithiau, wedyn rhedeg (neu gerdded) hanner milltir neu 10 milltir. Gallwch chi ddod i un sesiwn neu bob un ohonyn nhw. Chi sydd i benderfynu. Neu hyd yn oed os ydych chi wedi gwneud acwathlon neu driathlon o’r blaen, mae croeso i chi alw heibio.”
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan ymgynghorwyr, gan fynd â thriniaethau safonol ysbyty at gleifion ac, os oes angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf.
Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn cyflenwi ymgynghorwyr hynod fedrus o’r GIG ac ymarferwyr gofal critigol sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.
Mae’r uwch ofal critigol hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, rhoi trallwysiadau gwaed a chynnal mân lawdriniaethau, a hynny i gyd ar safle’rdigwyddiad.
Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd criwiau ymroddedig yr Ambiwlans Awyr, ble bynnag maen nhw wedi’u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i roi gofal achub bywyd mewn argyfwng.
Yn 2026, mae’r Elusen yn nodi ei phen-blwydd yn 25 oed. Dros y chwarter canrif ddiwethaf, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi tyfu o fod yn un hofrennydd a oedd yn gweithredu yn ystod oriau cyfyngedig i fod yn wasanaeth cenedlaethol 24/7 sy’n darparu gofal uwch o safon ysbyty, lle bynnag y bo’i angen – o ochr y ffordd i gartrefi, ac o lethrau mynyddoedd i arfordiroedd. Mae gan griwiau bellach fynediad at bedwar hofrennydd a fflyd o gerbydau ymateb cyflym.
Mae’r gwasanaeth wedi cyflawni mwy na 57,000 o deithiau, gan roi triniaethau achub bywyd mewn rhai o’r amgylchiadau mwyaf heriol, a rhoi’r cyfle gorau posib i gleifion oroesi a gwella.
Mae Darren Hughes, aelod o Glwb Rhedeg Llanfair-ym-Muallt, wedi diolch i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl goroesi ataliad y galon wrth redeg ddwy flynedd yn ôl.
Llewygodd wrth redeg ar hyd un o’i lwybrau arferol, ond roedd Lee Nicholson, ffrind a chyd-aelod o’r clwb, yn mynd heibio ar y pryd a daeth o hyd i Darren. Ffoniodd Lee 999 ar unwaith a dechreuodd roi CPR.
Cyrhaeddodd diffoddwyr tân a pharafeddygon wrth gefn Llanfair-ym-Muallt yn gyflym, a chriw Ambiwlans Awyr Cymru yn fuan wedyn. Cafodd Darren ei drin yn y fan a’r lle cyn cael ei gludo yn yr hofrennydd i ysbyty yng Nghaerdydd.
Ar ôl cael ataliad y galon, treuliodd Darren chwe diwrnod mewn coma, ond mae wedi gwella’n llwyr ers hynny. Dywedodd: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gwasanaeth hanfodol bwysig yn ein cymuned wledig. Rydw i mor ddiolchgar iddyn nhw ac i bawb arall wnaeth fy helpu ar y diwrnod hwnnw, sy’n golygu fy mod i nawr yn gallu parhau i wneud y chwaraeon rwy’n eu caru – rhedeg, nofio a seiclo.”
Dywedodd Siôn Edwards, Pennaeth Codi Arian a Gwerthiant Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer Gogledd Cymru a’r Canolbarth: “Rydyn ni wrth ein bodd mai ni sydd wedi cael ein dewis fel yr elusen a fydd yn elwa o’r digwyddiad hwn, a gobeithio y bydd pobl yn mwynhau’r ras gyfnewid gyffrous newydd. Mae’n wych clywed am ddigwyddiad elusennol sy’n agored i bob gallu ac oedran, a gobeithiwn y bydd pobl, unwaith eto, yn cefnogi’r digwyddiad arbennig hwn.
“Bob blwyddyn, mae’r digwyddiad wedi codi swm anhygoel i elusen. Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £13 miliwn bob blwyddyn i helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd ledled Cymru. Bydd digwyddiad codi arian fel hwn yn ein helpu i barhau i fod yno i bobl Cymru pan mae ein hangen ni fwyaf. Rydyn ni’n gwerthfawrogi cefnogaeth pwyllgor Acwathlon Llanfair-ym-Muallt. Rydych chi i gyd yn cyfrannu at achub bywydau ar hyd a lled Cymru.”
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, ewch i www.entrycentral.com/BuilthWellsAquathlon2026
Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at builthaquathlon@gmail.com neu ewch i www.facebook.com/groups/builthwellsaquathlon