Bu meddyg o Gaerdydd newid ei stethosgop am ei esgidiau rhedeg wrth iddo gymryd rhan mewn marathon yn yr Eidal.
Rhedodd Dr Samir Sholapurkar y marathon yn Bologna, yr Eidal er cof am ei ffrind a’i gydweithiwr Lowrie Edwards, a fu farw ym mis Tachwedd.
Roedd Samir, 31 oed, eisiau codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd y ‘gwaith anhygoel’mae’r elusen yn ei wneud i achub bywydau ledled Cymru. Roedd yr achos hefyd yn agos at galon Lowrie a’i theulu.
Mae Samir, sy’n feddyg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wedi rhedeg hanner marathon dros ddeng mlynedd yn ôl. Er iddo gael seibiant hir o redeg a dyblu nifer y filltiroedd a redodd gynt, roedd yn benderfynol o orffen y marathon.
Wrth fyfyrio ar ei lwyddiant yn rhedeg 26.2 milltir, dywedodd y meddyg: “Roeddwn i’n bwriadu gwneud fy marathon cyntaf yn yr Eidal yn y gobaith y byddai’r amodau rhedeg yn ffafriol. Roedd y marathon yn bendant yn her i mi, ond fe wnes i fwynhau’r broses hyfforddi, ac rwy’n ddiolchgar fy mod wedi gallu goroesi er gwaethaf rhai anafiadau corfforol rhwystredig.
Gobeithio y byddaf yn dod o hyd i gyfle arall yn y dyfodol agos i wneud marathon arall a cheisio cael amser cyflymach. Mae’n 10 mlynedd ers imi redeg hanner marathon, felly cefais fy nhaflu i’r pen dwfn braidd!”
Cododd £1,037 anhygoel i’r Elusen Cymru gyfan ar ôl cwblhau her gorfforol a meddyliol y marathon yn llwyddiannus.
Dywedodd: “Byddaf yn ddiolchgar am byth am yr holl gefnogaeth a gefais i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn; bu farw fy ffrind Lowrie Edwards yn yr Hydref y llynedd, gwaetha’r modd, ac roedd yn anrhydedd i godi arian i elusen leol a oedd yn agos at galonnau fy ffrind a’i theulu.”
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan ymgynghorwyr, gan fynd â thriniaethau safonol ysbyty at gleifion ac, os oes angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf.
Fe’i darperir drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar gyfraniadau cyhoeddus i godi’r £13 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw’r hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.
Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG i weithio yng ngherbydau’r Elusen.
Mae’r gofal critigol neilltuol hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed, a chynnal mân lawdriniaethau – i gyd yn y fan a’r lle.
Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd criwiau ymroddedig yr elusen, ble bynnag y maen nhw, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywyd brys.
Yn dilyn ei ymdrechion llwyddiannus i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, gwahoddwyd Dr Sholapurkar i hofrenfaCaerdydd yr Elusen lle cyflwynodd y £1,037 i’r criw.
Dywedodd Samir: “Roedd yn fraint ac yn llawer o hwyl cwrdd â rhai o’r tîm yn y ganolfan hofrenyddion a dysgu ychydig mwy am y gwaith y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei wneud i bobl ledled y wlad.”
Dywedodd Mike May, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch o galon i Samir am redeg marathon ar ran ein Helusen. Roedd clywed bod Samir yn codi’r arian er cof am ei ffrind a’i gyn-gydweithiwr Lowrie Edwards yn deimladwy iawn.
Er bod dros 10 mlynedd wedi mynd heibio ers i Samir redeg hanner marathon, roedd rhedeg dwywaith y pellter hwnnw yn her enfawr i’w gwblhau, sy’n anhygoel.
Mae Samir wedi codi swm gwych o £1,037 i’n helusen Cymru gyfan. Dylai fod yn falch iawn o gwblhau marathon – byddai’r rhan fwyaf o bobl yn osgoi’r fath beth.
Bydd pob punt sy’n cael ei chodi yn gwneud gwahaniaeth a fydd yn achub bywydau. “Diolch yn fawr iawn!”