Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Chwarae nawr!
April 23, 2026 Home The Charity News Mae Prif Swyddog Gweithredol a chyd-sylfaenydd Afanti Media yn cael ei benodi’n Llysgennad Busnes Ambiwlans Awyr Cymru

Mae Prif Swyddog Gweithredol a chyd-sylfaenydd Afanti Media yn cael ei benodi’n Llysgennad Busnes Ambiwlans Awyr Cymru

5 minute read

Mae Prif Swyddog Gweithredol cwmni cynhyrchu annibynnol o Gymru, sydd wedi ennill sawl gwobr, wedi cael ei benodi’n Llysgennad Busnes ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Sefydlodd Emyr Afan a’i wraig, Mair Davies, Afanti Media ym 1997. Mae’r cwmni’n enwog am greu cynnwys o safon uchel ar gyfer darlledwyr fel y BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 a Sky.

Derbyniodd Emyr OBE am ei wasanaethau i’r cyfryngau a cherddoriaeth yn 2024, ac enillodd wobr Entrepreneur y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd, ar ôl ennill Busnesy Flwyddyn Caerdydd a Busnes Creadigol y Flwyddyn yn 2023. Mae wedi’i ddisgrifio ganCEO Monthly fel “un o’r Prif Swyddogion Gweithredol cynhyrchu mwyaf dylanwadol yngNghymru”. Mae’n Gadeirydd EVO Ultra ‘Hiraeth’, sef grŵp o Brif Swyddogion Gweithredola Rheolwyr Gyfarwyddwyr, yn ogystal ag elusennau cerddoriaeth Anthem a Urdd Cerddoriaeth Cymru.


Dywedodd Emyr Afan OBE: “Rwy’n teimlo’n falch iawn o fod yn rhan o Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae angen i ni ddathlu’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig, ac mae Ambiwlans Awyr Cymru yn rhan fawr o’r stori lwyddiant honno. Pa bynnag sgiliau a chysylltiadau sydd gennyf, byddaf yn eu defnyddio i helpu i gryfhau a datblygu’r Elusen ymhellach.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed eleni. Mae wedi cynnaldros 56,000 o deithiau ers ei hediad cyntaf ar 1 Mawrth 2001.

Meddai Emyr: “Ar y pryd, roedd Afanti Cymru yn ‘reidio ton Cymru Cŵl’. Roedden ni’nrhan o’r digwyddiadau cerddoriaeth mawr – o Tom Jones yng Nghastell Caerdydd, i’rStereophonics ym Morfa, a’r Big Noise ar lwyfan arnofiol ym Mae Caerdydd gyda Paul Weller a Catatonia.

“Un prynhawn Sul gwlyb, roedden ni’n mynd am dro gyda’n pedwar plentyn yng nghefn y car pan ddaethon ni ar draws hen ffatri oedd yn edrych fel rhywbeth allan o fyd Willy Wonka ym Mhontypridd – a meddwl, ‘Be ’di hwn?’”

“Hen gartref pop Corona oedd o. Aethon ni i mewn a gweld hen labeli poteli wedi’u gadael, a sylweddoli ein bod ni’n gwneud ‘pop’ o fath gwahanol – cerddoriaeth bop. Roedd yn teimlofel y lle perffaith i ddatblygu talent gerddorol yng Nghymru.”

I lansio’r fenter, cysylltodd Emyr â Tom Jones, oedd yn byw yn Los Angeles ar y pryd.

Gwenodd Emyr wrth gofio’r sgwrs: “Dywedais wrtho, ‘Dwi fethu fforddio talu ti, mi roddaf i ti 1% o’r cwmni,’ ac fe ddywedodd, ’you’re on’. Mae e wedi bod gyda ni ers hynny, mae e’n Cymro balch iawn.

“Daeth Tom adref a thorri potel o ‘dandelion and burdock’ ar ochr yr adeilad yn yr agoriadswyddogol. Roedd hi’n foment eiconig.

“Daeth pobl fel Alex Jones, Gethin Jones a Steve Jones drwy’r drysau, y Joneses i gyd, ac edrychwch arnyn nhw nawr.”

“Rwy’n teimlo bod pen-blwydd Ambiwlans Awyr Cymru yn 25 oed yr un mor eiconig o ran moment bwysig yn hanes Cymru. Mae angen dathlu hynny.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gorfod codi £13 miliwn bob blwyddyn i gadw eihofrenyddion yn yr awyr a’i gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Emyr: “Mae codi arian a chynnal gwasanaeth o’r safon yma yn waith caled iawn.

“Mae’n rhaid i’r Elusen godi symiau enfawr i barhau. Dylai pobl fel fi fod yn cyfrannu einhamser i helpu lle gallwn ni.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru ymhlith y brandiau gorau i ddod allan o Gymru, ac ynadlewyrchu’r safon uchel sydd gennym ni fel cenedl.”

Ychwanegodd: “Mae Afanti yn fusnes teuluol. Daeth y syniad oherwydd bod fy ngwraig a minnau eisiau treulio mwy o amser gyda’n gilydd.”

“Rydyn ni’n caru diwylliant, cerddoriaeth, chwaraeon a phopeth Eidalaidd. Gwelais y gair ‘Avanti’ wrth ffilmio yn yr Eidal, ac dros amser fe drodd hynny’n ‘Afanti’. Mae’r ‘F’ ynsefyll am ‘family’, ond hefyd am ‘factual’, gan ein bod yn cynhyrchu llawer o raglennidogfen.”

Mae’r cwmni wedi denu buddsoddiad gan gwmnïau fel Pinewood Studios, ac roedd yn eiddoi Sky Studios am sawl blwyddyn. Yn 2020, penderfynodd Emyr a Mair brynu’r cwmni’n ôl.

Dywedodd: “Ar y pryd, roedd fy mab Osian wedi dod yn ôl i Gymru ar ôl gweithio i’rWeinyddiaeth Amddiffyn, a daeth Naomie yn ôl o Lundain i fagu teulu yng Nghaerdydd,felly ‘the band was back together’ fel maen nhw’n dweud.”

“Maen nhw nawr yn cymryd mwy o gyfrifoldeb o fewn y cwmni, ac maen nhw’n wych. Mae hynny’n rhoi mwy o amser i mi ganolbwyntio ar roi’n ôl, a dyna beth sy’n bwysig i mi nawr.”

Ychwanegodd: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth unigryw sy’n hanfodol iGymru, o ystyried y dirwedd, yr arfordir a’r mynyddoedd.”

“Rwyf wedi gweithio yn y cyfryngau a digwyddiadau byd-eang ers blynyddoedd, ac maegennym rwydwaith cryf o gysylltiadau. Rydyn ni’n arbenigo mewn adrodd straeon, ac hoffem ddefnyddio hynny i helpu’r Elusen i gyrraedd mwy o bobl.”

“Mae gwerthoedd y gwasanaeth yn amlwg ym mhopeth mae’n ei wneud. Gobeithio y gallwnhelpu i godi ei broffil ymhellach.”