Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Charaewch nawr!
Gorffennaf 1, 2026 Hafan The Charity Newyddion Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru yn dathlu 25 mlynedd o Ambiwlans Awyr Cymru mewn Gala Codi Arian

Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru yn dathlu 25 mlynedd o Ambiwlans Awyr Cymru mewn Gala Codi Arian

5 munud o ddarllen

Mae Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru wedi canmol effaith Elusen Achub Bywydau Ambiwlans Awyr Cymru, wrth iddo ymuno â chefnogwyr i ddathlu pen-blwydd yr elusen yn 25 oed mewn Gala arbennig ddydd Gwener 26 Mehefin.

Roedd Noddwr Brenhinol yr Elusen yn bresennol yn y digwyddiad pwysig, a ddaeth â gwirfoddolwyr, cleifion, aelodau o’r criw, partneriaid a chefnogwyr at ei gilydd i ddathlu 25 mlynedd o ddarparu gofal critigol ledled Cymru. Cyflwynwyd y Gala gan y cyflwynydd teledu a radio, Jason Mohammed.

Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi datblygu o fod yn un hofrennydd oedd yn gweithredu oriau cyfyngedig, i fod yn wasanaeth 24/7 cenedlaethol sy’n darparu gofal uwch o safon ysbyty, lle bynnag y bo angen, e.e. ar ochr y ffordd, mewn cartrefi, ar lethrau’r mynyddoedd ac ar yr arfordir. Erbyn hyn, mae yna bedwar hofrennydd a fflyd o gerbydau ymateb cyflym.

Mae’r Elusen wedi gwneud dros 57,000 o deithiau, gan ddarparu triniaeth sy’n achub bywyd yn rhai o’r amgylchiadau mwyaf heriol a rhoi’r cyfle gorau posibl i gleifion oroesi a gwella.

Wrth siarad yn y digwyddiad, a gynhaliwyd yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd, talodd Ei Uchelder Brenhinol deyrnged i’r gwasanaeth a’r rhai sy’n rhan ohono.

Dywedodd: “Ers 25 mlynedd, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobl a chymunedau ledled Cymru. Mewn eiliadau dychrynllyd, mae ei chriwiau wedi dod â gofal critigol uwch yn syth at y bobl sydd â’r angen mwyaf, gan gynnig cymorth a gobaith.

Tynnodd sylw hefyd at statws byd-eang yr Elusen a’i hymrwymiad i welliant parhaus: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi ennill enw da yn rhyngwladol am y gwasanaeth y mae’n ei ddarparu, ac am ei hymrwymiad i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth sy’n helpu i sicrhau’r gofal gorau posibl i bobl Cymru.”

Roedd y Tywysog hefyd yn cydnabod ymroddiad gwirfoddolwyr, staff a chefnogwyr, eu hymrwymiad nhw sydd wedi cynnal yr Elusen ac wedi cryfhau ei chysylltiad â chymunedau ledled Cymru.

Roedd y Gala hefyd yn cynnwys straeon pwerus gan gleifion a gweithgareddau codi arian, gan gynnwys ocsiwn byw yn cynnig profiadau a gwobrau unigryw.

Roedd y digwyddiad yn bosibl diolch i’w brif noddwyr: Grŵp Ascona, Gama Aviation, Bibado a Chyfreithwyr Redkite.

Roedd y noson yn cynnwys stori bwerus a theimladwy iawn gan Alan Owen , cyn-glaf, a rannodd brofiad ei deulu o oroesi a gwella yn dilyn ataliad ar y galon ym mis Ebrill 2022. Ar ôl llewygu wrth chwarae ‘pêl-droed cerddedol’, nid oedd calon Alan yn curo am wyth munud, cyn iddo gael ei adfywio gan y bobl o’i gwmpas. Rhoddodd clinigwyr Ambiwlans Awyr Cymru ofal critigol uwch iddo yn y fan a’r lle, gan ei sefydlogi er gwaethaf difrifoldeb ei gyflwr a chydlynu triniaeth bellach a achubodd ei fywyd yn y pen draw.

Wrth fyfyrio ar ei brofiad, dywedodd Alan: “Does dim dwywaith na fyddwn i yma heddiw oni bai am Ambiwlans Awyr Cymru.”

Siaradodd yn deimladwy hefyd am yr effaith ehangach ar anwyliaid, gan dynnu sylw at brofiad teuluoedd fel ‘cyd-oroeswyr’: “Mae eu trawma yn wahanol, ond yr un mor real.”

Wrth bwysleisio’r rhodd barhaol y mae’r gwasanaeth wedi’i rhoi iddo, ychwanegodd: “Rydw i wedi cael mwy o amser. Amser gyda fy nheulu. Fyddwn i ddim wedi cael yr amser hwnnw oni bai am yr elusen hon.“

Yn gynharach gyda’r nos, bu’r Prif Weithredwr Dr Sue Barnes yn myfyrio ar daith yr Elusen a thrawsnewidiad y gwasanaeth ers ei lansio yn 2001.

Dywedodd: “Pan lansiwyd y gwasanaeth yn 2001, dim ond un hofrennydd oedd gennym. Heddiw, mae’n wasanaeth cenedlaethol, sy’n gweithredu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae’n drawsnewidiad sydd wedi helpu i achub llawer o fywydau ac wedi cyffwrdd cleifion yn ogystal â’u teuluoedd.”

Pwysleisiodd Dr Barnes hefyd rôl cefnogaeth y cyhoedd o ran cynnal y gwasanaeth. Dywedodd: “Mae datblygiad yr Elusen yn fwy rhyfeddol byth gan ei bod yn cael ei phweru gan genedl o ychydig dros dair miliwn o bobl. Gwlad fach, gyda chalon enfawr. Felly, wrth i ni ddathlu’r garreg filltir hon, rydyn ni’n gwneud hynny gyda balchder a diolchgarwch.

“I bawb sydd wedi rhoi eu hamser, eu harbenigedd, eu hymrwymiad a’u cefnogaeth, diolch yn fawr.

“Mae’r gwasanaeth hwn yn eiddo i bobl Cymru. Ni yw eich Ambiwlans Awyr, ac rydyn ni’n bodoli, diolch i chi.“

Diolch i haelioni’r gwesteion, noddwyr a chefnogwyr, cododd y Gala swm anhygoel o £180,000, gan gynnwys nawdd hael o £85,000 gan gefnogwyr corfforaethol.

Wrth i Ambiwlans Awyr Cymru edrych ymlaen tua’r dyfodol, roedd y digwyddiad yn dathlu 25 mlynedd o wasanaeth a hefyd yn tynnu sylw at yr angen parhaus am gymorth, i sicrhau bod modd cyrraedd mwy o gleifion ledled Cymru yn ystod eu cyfnod o angen.