Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Charaewch nawr!
Medi 25, 2026 Hafan The Charity Newyddion Cyfle i ennill gwobrau a chefnogi gwasanaeth achub bywyd

Cyfle i ennill gwobrau a chefnogi gwasanaeth achub bywyd

5 munud o ddarllen

Beth am gymryd rhan yn raffl ar-lein Ambiwlans Awyr Cymru i gael cyfle i ennill £3,000?

Mae cymryd rhan yn raffl yr Hydref sy’n cael ei chynnal gan yr Elusen yn rhoi cyfle i chi ennill gwobr ariannol mewn da bryd ar gyfer y Nadolig, gan helpu i achub bywydau ledled Cymru ar yr un pryd.

Mae tocynnau’n costio £1 a byddant ar gael ar wefan yr Elusen o ddydd Gwener 25 Medi ymlaen. £3,000 yw’r brif wobr, ond mae gwobrau eraill o £300 a £150 hefyd.

Mae’r Elusen hefyd yn cynnal raffl bargen gynnar. Bydd tocynnau a gafodd eu prynu cyn dydd Gwener 16 Hydref yn cael eu cynnwys yn y raffl, a gynhelir ddydd Mercher 21 Hydref.

Bydd y tocynnau bargen gynnar yn rhoi’r cyfle i ennill un o 25 wobrau ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys 10 gwobr ariannol o £25, hetiau gwlân, beiros, llyfrau nodiadau a thegan meddal.

Mae tocynnau ar gyfer y brif gystadleuaeth ar gael tan ddydd Sul 8 Tachwedd. Bydd y raffl yn cael ei thynnu ddydd Mercher 11 Tachwedd, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Elusen ddydd Llun 16 Tachwedd.

Derbyniodd enillydd raffl yr Hydref y llynedd, sef Patti Sanderson o Ddolanog, y brif wobr o £3,000 ar ôl anghofio ei bod wedi prynu tocynnau.

Daeth Patti i’r brig drwy ennill £3,000 mewn da bryd ar gyfer tymor yr ŵyl.

Roedd ein raffl ar-lein y llynedd wedi gwerthu dros 12,000 o docynnau ledled Cymru, a chodwyd dros £14,000, gan gynnwys rhoddion ychwanegol gan chwaraewyr.

Dywedodd Phae Jones, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm yr Elusen: “Rydyn ni’n falch iawn o lansio raffl boblogaidd yr Hydref cyn tymor yr ŵyl. Drwy gymryd rhan, gallech chi ennill £3,000 i wneud y Nadolig yn arbennig iawn i deulu a ffrindiau. Gallai’r ail a’r drydedd wobr o £300 a £150 wneud gwahaniaeth.”

“Y llynedd, bu ein raffl yn llwyddiant ysgubol, a derbyniodd ein henillydd lwcus, Patti, y brif wobr ar ôl anghofio ei bod wedi prynu tocynnau. Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £13 miliwn bob blwyddyn, felly ystyriwch brynu tocyn i gefnogi ein gwasanaeth achub bywyd. Dydych chi byth yn gwybod, efallai y byddwch chi’n ennill yn union fel Patti.”

Bydd yr arian sy’n cael ei godi yn helpu Ambiwlans Awyr Cymru i fod yno i bobl ledled y wlad mewn argyfwng sy’n peryglu eu bywyd neu rannau o’u corff.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth sy’n cael ei arwain gan feddygon ymgynghorol, sy’n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at gleifion ac, os oes angen, yn eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf. Gall hyn arbed oriau o’i gymharu â gofal safonol, a phrofwyd ei fod yn gwella goroesiad ac adferiad cynnar yn sylweddol. Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.

Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu ymgynghorwyr ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd criwiau ymroddedig yr ambiwlans awyr, ni waeth ble maen nhw wedi’u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywyd brys.


I gymryd rhan yn Raffl Hydref Ambiwlans Awyr Cymru, ewch i www.walesairambulance.com/autumn-raffle