Roedd disgyblion o ysgol gynradd yn Aberystwyth yn gyffrous i groesawu cynrychiolydd o Ambiwlans Awyr Cymru i’w hysgol fel rhan o’u thema ‘pobl sy’n ein helpu’.
Fe ymwelodd Cydlynydd Codi Arian Rhanbarthol yr Elusen, Emily Bell, â Dosbarth Leri yn ddiweddar yn Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant.
Yn ogystal â rhoi cyflwyniad i ddosbarth o ddisgyblion, rhwng 4 a 5 oed, sy’n dysgu am ‘bobl sy’n ein helpu ni’, rhoddodd Emily sgwrs hefyd i’r ysgol gynradd gyfan yn ystod eu gwasanaeth.
Dywedodd Rhian Parry, athrawes Dosbarth Leri: “Mae ein dosbarth derbyn yn dysgu am ‘bobl sy’n ein helpu’ ar hyn o bryd, felly roedd yr ymweliad yn cyd-fynd yn berffaith â’n gwaith thema, ac fe wnaethom neidio ar y cyfle i gael ymweliad gan Emily. Roedd yn gwneud dysgu’r plant yn ddilys ac yn dod â’r pwnc yn fyw. Fe wnaeth yr ysgol gyfan elwa ar yr ymweliad drwy wasanaeth i’r ysgol gyfan, a gallai rhieni gymryd rhan hefyd yn ystod prynhawn coffi.
“Roedd yr ymweliad yn ddiddorol a buddiol iawn. Fe wnaethom ddysgu llawer am y gwasanaeth ambiwlans awyr, y gwaith anhygoel maent yn ei wneud, a sut mae’r Elusen yn cael ei hariannu. Roedd yn rhoi dealltwriaeth well i’r plant a’r staff o rôl allweddol yr ambiwlans awyr yn helpu pobl mewn argyfyngau.
“Fe wnaeth y plant fwynhau’r sgwrs yn fawr iawn ac roedden nhw’n chwilfrydig iawn ac yn holi llawer o gwestiynau.”
Dywedodd yr athrawes ddosbarth bod y disgyblion ‘wrth eu boddau yn arbennig’ gydag elfennau rhyngweithiol ymweliad Emily, a oedd yn cynnwys codi’r bag meddygol i weld pa mor drwm yr oedd a defnyddio’r siâp cardfwrdd wedi’i dorri allan i drawsnewid eu hunain yn feddyg Ambiwlans Awyr Cymru.
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan ymgynghorwyr, gan fynd â thriniaethau safonol ysbyty at gleifion ac, os oes angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf.
Mae’n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion cyhoeddus er mwyn codi’r £13 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw’r hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.
Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG i weithio yng ngherbydau’r Elusen.
Mae’r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i weinyddu anesthesia, darparu trallwysiadau gwaed a chynnal mân lawdriniaethau, ar leoliad digwyddiad.
Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd criwiau ymroddedig yr elusen, ble bynnag y maen nhw, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywyd brys.
Dywedodd Emily May: “Roedd yn wych ymweld â’r ysgol a rhoi cyflwyniad ar y gwaith rydym yn ei wneud i achub bywydau yn Ambiwlans Awyr Cymru. Roedd y plant yn wych ac fe wnaethant ofyn llawer o gwestiynau da.
“Roedd ganddyn nhw ddiddordeb mawr yn yr Elusen, a sut yr ydym yn helpu pobl ledled y wlad.
“Roeddwn yn falch iawn i allu ymweld â’r ysgol ac esbonio pwysigrwydd Ambiwlans Awyr Cymru i bobl Cymru. Dysgodd y plant sut rydym yn defnyddio ceir ymateb cyflym yn ogystal â hofrenyddion i gyrraedd cleifion.
“Diolch i bawb yn Ysgol Padarn Sant am groeso gwych. Fe wnes i fwynhau cwrdd â chi yn fawr iawn.”