Cafodd Ambiwlans Awyr Cymru rodd o £5,000 ar ôl i weithwyr ym Mharc Coffa Sir Ddinbych yn Llanelwy bleidleisio dros yr Elusen i elwa o Gynllun Ailgylchu Metelau ICCM.
Dyma’r flwyddyn gyntaf i Barc Coffa Sir Ddinbych gefnogi’r elusen sy’n gweithredu ar draws Cymru.
Dywedodd Nan Wynne Evans, Rheolwr Parc Coffa Sir Ddinbych, fod Ambiwlans Awyr Cymru yn ‘wasanaeth eithriadol o bwysig i Gymru’.
Dywedodd: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn Elusen sy’n agos iawn at galonnau llawer o bobl yng Nghymru. Dydych chi byth yn gwybod pryd y gallai fod angen eu help arnoch chi, ar aelod o’ch teulu, ar ffrind neu ar gydweithiwr.
“Mae llawer o ardaloedd gwledig ac anghysbell yng Nghymru, yn ogystal â ffyrdd prysur a chymunedau ar wasgar ar hyd a lled y wlad, felly mae cael gofal meddygol brys arbenigol i bobl yn gallu bod yn gwbl hanfodol.”
Mae Cynllun Ailgylchu Metelau ICCM yn cael ei redeg gan y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd. Ar ôl amlosgi, gall metelau fel y rhai o eirch neu fewnblaniadau meddygol aros ar ôl y broses amlosgi. Gyda’r cydsyniad priodol, gellir casglu ac ailgylchu’r metelau hyn yn hytrach na’u claddu neu eu gwaredu.
Mae’r ICCM wedi codi dros £25.7 miliwn i elusennau ers creu’r cynllun ailgylchu metelau.
Dywedodd Nan: “Y peth pwysig am y cynllun yw bod yr arian a godir drwy ailgylchu yn cael ei roi i elusennau. Gall amlosgfeydd sy’n cymryd rhan yn y cynllun enwebu elusennau i elwa, sy’n golygu y gall rhywbeth a fyddai fel arall wedi cael ei drin fel gwastraff gynhyrchu arian gwerthfawr i fudiadau sy’n gwneud gwaith pwysig.
“I ni, mae bod yn rhan o’r cynllun yn gyfle i gefnogi elusennau fel Ambiwlans Awyr Cymru, ar yr un pryd â gwneud yn siŵr bod deunyddiau’n cael eu trin yn gyfrifol ac yn gynaliadwy.
“Mae’n enghraifft gadarnhaol iawn o sut gall y diwydiant amlosgi weithio gydag elusennau i wneud gwahaniaeth, ac rydym wrth ein bodd bod y cynllun yn ein galluogi i gefnogi gwasanaeth mor bwysig yng Nghymru.”
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth sy’n cael ei arwain gan feddygon ymgynghorol, sy’n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at gleifion ac, os oes angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf. Mae’n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.
Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG i weithio yng ngherbydau’r Elusen.
Mae’r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed, a chynnal mân lawdriniaethau, i gyd yn y fan lle bu’r digwyddiad.
Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd criwiau ymroddedig yr elusen, ble bynnag y maen nhw wedi’u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal brys sy’n achub bywydau.
Cafodd Debra Sima, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer yr ardal, wahoddiad i gwrdd â’r staff a diolch iddynt yn eu Gwasanaeth Coffa ‘Goleuo Cannwyll Er Cof’.
Dywedodd: “Roedd hi’n hyfryd cwrdd â’r staff yn ystod y gwasanaeth coffa. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r staff ym Mharc Coffa Sir Ddinbych, a bleidleisiodd dros Ambiwlans Awyr Cymru i dderbyn y rhodd hael hon gan Gynllun Ailgylchu Metelau ICCM. Rydym yn ddiolchgar iawn am y rhodd feddylgar hon.
“Mae’n emosiynol iawn gwybod bod rhywbeth cadarnhaol yn gallu deillio o adeg o goffáu a cholled, a bod hynny’n gallu helpu pobl eraill.
“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar gyfraniadau cyhoeddus i godi £13 miliwn bob blwyddyn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Bydd rhoddion fel y £5,000 yma yn sicrhau ein bod ni’n parhau i fod yno i bobl Cymru pan fyddan nhw ein hangen ni fwyaf.
“Diolch i bawb ym Mharc Coffa Sir Ddinbych am bleidleisio dros Ambiwlans Awyr Cymru, rydym wir yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth.”