Ym mis Gorffennaf 2023, tra ar wyliau yng Nghymru, aeth Joanna Hicks a’i ffrind yn ôl eu harfer yn y bore i nofio ar draeth Niwgwl.
Fodd bynnag, er bod Joanna, yn nofiwr hyderus a chryf, cafodd ei dal mewn cerrynt terfol a aeth i drafferth.
Dywedodd: “Rwy’n cofio llawer o donnau a meddwl fy mod mewn trafferth, ond doeddwn i ddim yn cofio dim ar ôl hynny.”
Llwyddodd ei ffrind Philippa i nofio yn ôl i’r lan a gwnaeth ei phartner, Bob alw 999 am gymorth.
Ymatebodd sawl asiantaeth, gan gynnwys achubwyr bywyd a badau achub RNLI o ddwy orsaf ar hyd yr arfordir, hofrennydd gwylwyr y glannau ac ambiwlansiau.
Ar ôl bod yn y dŵr am tua 40 munud, cafodd Joanna ataliad y galon ac anfonwyd am Ambiwlans Awyr Cymru i roi’r ymyriadau gofal critigol roedd eu hangen arni i oroesi.
Y meddygon Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) ar hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru oedd y Meddyg Ymgynghorol Gofal Critigol Mike Slattery a’r Ymarferydd Gofal Critigol, Josh Eason. Cyrhaeddodd y tîm ar hofrennydd, a gafodd ei hedfan gan y Peilot James Gardiner.
Dywedodd Joanna, sy’n 64 oed: “Mae Niwgwl yn draeth hir iawn ac rwy’n credu ei fod yn anodd i’r cychod ddod o hyd i mi, ond rwy’n ddiolchgar i un o’r achubwyr bywyd, Matty McLeoed, a redodd i’r traeth a dod o hyd i mi. Roeddwn wedi bod yn y dŵr am dipyn. Dywedodd fy mod yn edrych yn ddifywyd, yn arnofio wyneb i lawr ac yn las.
“Aeth â mi i’r lan a gwnaeth gwasanaethau achub eraill ymuno ag ef, gan gynnwys, Ambiwlans Awyr Cymru a oedd yn hollbwysig i mi.”
Roedd Joanna yn eithriadol o oer, felly ceisiodd y meddygon ei chynhesu gan ddefnyddio blanced thermol.
Stopiodd ei chalon dair gwaith, a dim ond 1% o siawns a oedd ganddi o oroesi.
Yn dilyn yr ymdrechion dadebru, rhoddodd Ambiwlans Awyr Cymru anaesthetig cyn-ysbyty i Joanna a’i gosod ar beiriant anadlu. Gwnaeth y math hwn o gymorth bywyd alluogi’r tîm i gymryd drosodd ei gallu i anadlu ac i leihau’r risg o niwed hirdymor i’r ymennydd.
Gwnaethant osod trwythiad o adrenalin i atal ei phwysedd gwaed rhag disgyn yn rhy isel.
Fel arfer dim ond mewn ysbyty y byddai’r triniaethau a gafodd Joanna ar gael, ond diolch i uwch-glinigwyr Ambiwlans Awyr Cymru, cafodd Joanna y gofal yr oedd ei angen arni i oroesi ar y traeth.
Dywedodd Joanna, sydd o Lundain: “Dywedodd meddyg Ambiwlans Awyr Cymru am fod y môr yn eithaf oer, byddai fy nghorff wedi cau i lawr yn y môr. Gwnaeth hynny fy helpu, felly roedd ganddynt fwy o siawns o fy adfywio ar ôl bod yn oer iawn.
“Er, rwy’n credu i hynny ei wneud yn fwy anodd iddynt roi cyffuriau i mi oherwydd mae’n debyg bod yn rhaid i’r corff fod yn gynnes iddynt allu gweithio’n iawn. Roeddent yn fedrus iawn yn rhoi cymorth i mi.”
Wrth gael ei monitro’n gyson, gwnaeth criw yr ambiwlans awyr gludo Joanna i Ysbyty Glangwili.
Treuliodd 10 diwrnod yn brwydro am ei bywyd yn yr uned gofal dwys.
Aeth Joanna ymlaen i ddweud: “Mi wnes i ddod ataf fy hun yn yr uned gofal dwys, ar ôl bod mewn coma bwriadol ar gymorth bywyd, heb unrhyw broblemau. Roedd pawb wedi syfrdanu fy mod wedi goroesi ac yn ymddangos yn iawn.”
Ar ôl tair wythnos, cafodd Joanna ei rhyddhau o’r ysbyty a threuliodd amser mewn cyfleuster adsefydlu yn agosach i’w chartref. Wedyn arhosodd gyda’i ffrindiau nes iddi fod yn barod i ddychwelyd i’w fflat yn Llundain.
Yn gynharach y flwyddyn hon, gwnaeth Joanna gyfarfod ag un o feddygon Ambiwlans Awyr Cymru, Josh, a roddodd driniaeth iddi ar y traeth ac a aeth â hi yn yr hofrennydd i’r ysbyty.
Dywedodd: “Roedd yn brofiad hyfryd a braf i gyfarfod Josh. Dywedodd fwy am beth fu’n rhaid iddynt geisio ei wneud i fy achub ar y traeth a pha mor agos oeddwn at beidio goroesi.
“Roedd y rhain yn fanylion nad oeddwn wedi eu clywed o’r blaen, ac er eu bod yn anodd i’w prosesu, gwnaethant i mi sylweddoli sgìl a phroffesiynoldeb anhygoel y meddygon, a’r gwasanaeth anhygoel mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei ddarparu yn defnyddio eu medrusrwydd i achub fy mywyd, pan oedd ei angen arnaf fwyaf.
“Ni allaf ddiolch digon i’r bobl anhygoel a medrus yma. Hebddynt, ni fuaswn yma heddiw i ddweud yr hanes.”
Cafodd ymweliad Joanna ei drefnu gan Nyrs Cyswllt Cleifion yr Elusen, Jo Yeoman, sydd wedi bod yn ei chefnogi ers y digwyddiad.
Dywedodd Jo Yeoman: “Mae Joanna wedi gwneud adferiad rhyfeddol, ond mae wedi cymryd cryn dipyn o amser iddi ddod i delerau â’r digwyddiad hwn sydd wedi newid ei bywyd. Nid oedd ganddi unrhyw atgof o’r diwrnod hwnnw, felly fy rôl i oedd ei helpu i weithio allan beth ddigwyddiad yn ystod y profiad hynod drawmatig hwn.
“Mae cyfarfod â’r bobl a oedd yn rhan o’i gofal wedi bod yn rhan hanfodol o’i hadferiad am i bob un chwarae rôl hollbwysig yn sicrhau ei bod yn goroesi. Roeddwn yn gallu rhoi Joanna mewn cysylltiad â’r Ymarferydd Gofal Critigol a aeth i’r safle ac roedd hyn yn brofiad gwerth chweil i’r ddau ohonynt. Maewedi bod yn fraint gweld Joanna yn datblygu dros y cyfnod hwn, i ddarparu cymorth iddi ac i’w gweld yn dychwelyd i fywyd bob dydd.”
Mae’n syfrdanol bod Joanna yn iawn yn gorfforol ac mae wedi dychwelyd i’r traeth am y tro cyntaf i gyfarfod â rhai o’r bobl a helpodd i achub ei bywyd. Dywedodd: “Dydych chi byth yn gallu dychmygu hyn yn digwydd ac rwy’n gwybod pa mor lwcus rydw i wedi bod, ac rwy’n ddiolchgar i’r bobl a wnaeth fy achub ac sydd wedi gofalu amdanaf.”
Mae Joanna wedi dychwelyd i wirfoddoli’n rheolaidd yn aoedardd Kew Gardens ac i nofio dan do y llynedd.
Dywedodd: “Dydw i ddim eto wedi nofio yn y môr, ac mi wnaf hynny rywbryd, ond bydd yn cymryd ychydig mwy o amser.”
Mae stori Joanna yn enghraifft wych o’r ffordd mae pawb yn chwarae eu rhan i sicrhau bod rhywun yn goroesi pan fydd eu bywyd yn cael ei fygwth.
Wrth fyfyrio ar Ambiwlans Awyr Cymru a’r hyn a wnaeth y tîm iddi’r diwrnod hwnnw, dywedodd Joanna:
“Cefais siawns o 1% i oroesi ar y traeth y diwrnod hwnnw, ac os na fyddai hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru wedi cludo’r meddygon ataf, ni fuaswn yma heddiw. Ni allaf ddiolch digon iddynt am yr hyn a wnaethant i mi.
“Mae’n syfrdanol bod y gwasanaeth hwn, a oedd yn hanfodol i sicrhau fy mod yn goroesi, yn elusen sy’n dibynnu ar roddion yn unig.”
Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu’n gyfan gwbwl ar roddion y cyhoedd i godi £11.2 miliwn bob blwyddyn. Helpwch i gadw eu hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd yr haf hwn, a fydd yn eu galluogi i achub mwy o fywydau unigolion fel Joanna drwy ymweld ag www.walesairambulance.com/donate.