Mae diffoddwr tân o dde Cymru wedi cwblhau 8 hanner marathon mewn 8 diwrnod yn olynol ar gyfer elusen sy’n achub bywydau.
Mae Paul Vowles, o Bont-y-clun, wedi codi swm anhygoel o £680 i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, ar ôl i ffrindiau Paul gael gofal critigol gan griw Ambiwlans Awyr Cymru.
Roedd Paul hefyd eisiau cefnogi’r Elusen ar ôl dysgu bod y pwysau o ran cyllido tanwydd yn wynebu’r elusen ar hyn o bryd oherwydd cynnydd mewn costau tanwydd hedfan o ganlyniad i’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
Dywedodd Paul: “Mae’r Elusen hon yn golygu llawer i rai o’m ffrindiau sydd, yn anffodus, wedi bod yn cael gofal critigol gan y criwiau. Mae’r pwysau o ran cyllid tanwydd hefyd yn golygu bod codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru yn bwysicach nag erioed.”
Mae Paul, sy’n dad i ddau o blant, wedi hen arfer gwthio ei gorff i’r eithaf. Ar ôl cael ei ysbrydoli gan Kevin Sinfield a’i heriau â Chlefyd Motor Niwron, aeth ati i redeg 7 hanner marathon mewn 7 diwrnod i’r elusen.
Dywedodd: “Eleni roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth tebyg ar gyfer elusen wahanol, felly roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n gwneud yr her ychydig yn anoddach na’r her ddiwethaf!
“Rydw i’n wastad wedi mwynhau cadw’n heini a rhedeg, ond nid pellteroedd hanner marathon oni bai mod i’n cymryd rhan yn yr heriau yma!”
Er gwaetha’r tywydd garw ar ddechrau’r hanner marathonau, gorffennodd Paul yr her mewn tywydd tanbaid.
Dywedodd: “Roeddwn i’n mwynhau mynd i redeg bob tro, a bron bob bore roedd rhywun eisiau rhedeg neu reidio beic ochr yn ochr â mi. Roedd hynny’n help mawr.
“Rydw i’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu tuag at y digwyddiad codi arian hwn, yn enwedig yn ystod y cyfnod economaidd anodd yma. Rydw i wedi gwirioni ar haelioni pawb.”
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, sy’n golygu mynd â thriniaethau o safon ysbyty at gleifion ac, os oes angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf. Caiff ei darparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.
Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG i weithio yng ngherbydau’r Elusen.
Mae’r gofal critigol neilltuol hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed, a chynnal mân lawdriniaethau – i gyd yn y fan a’r lle.
Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd criwiau ymroddedig yr elusen, ble bynnag y maen nhw, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywyd brys.
Dywedodd Christian Sullivan, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau i Paul am gwblhau 8 hanner marathon mewn 8 diwrnod, sy’n anhygoel. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Paul am godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i griw’r Elusen ddod i helpu ei ffrindiau.
“Byddai’r rhan fwyaf o bobl yn osgoi’r her y gosododd Paul iddo’i hun, a chododd swm anhygoel o £680 i’n helusen Cymru gyfan.
“Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £13 miliwn bob blwyddyn i gadw’n hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Bydd y digwyddiad codi arian hwn yn ein helpu i gyrraedd y targed blynyddol hwnnw.
Diolch i bawb a gefnogodd Paul gyda’i ddigwyddiad codi arian. Rydych chi i gyd wedi chwarae rhan yn achub bywydau ledled Cymru.”