Ym mis Mai 2021, aeth Sheila Breeds o Griccieth, i nofio yn ei thraeth lleol i roi cynnig ar siwt wlyb newydd, ac aeth ei gŵr, Oliver Schick i chwarae golff.
Mae hwn yn ddiwrnod y bydd Sheila a’i theulu yn ei gofio am byth, ar ôl iddi gael gwaedlif ar ei hymennydd ar y traeth, a wnaeth iddi syrthio ar ei hwyneb i mewn i’r môr a bu bron iddi foddi.
Yn ffodus, cafodd yr hyn a ddigwyddodd i Sheila ei weld gan deulu o Wrecsam a oedd yn ymweld â’r ardal.
Roedd Kathy Clutton, Neil Dobie a’u meibion Myles a Harris yn aros i fynd i lawr am y traeth pan yn sydyn, tynnodd y bechgyn sylw eu tad at yr hyn a oedd wedi digwydd i Sheila. Llwyddodd Neil gyda chymorth gan rai a oedd yn bresennol, i lusgo Sheila i fyny’r grisiau at y promenâd isaf.
Rhoddodd Neil CPR i Sheila wrth i Kathy alw am help. Gwnaethon nhw ag eraill, gan gynnwys Rich Wilcock, un o gymdogion agos Sheila, barhau i roi CPR iddi am 20 munud nes i gymorth meddygol gyrraedd.
Daeth parafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a chriw Ambiwlans Awyr Cymru Caernarfon, Jonathan Holman, Thomas Derwyn Jones a James Mercer i’r safle.
Wedi iddynt gyrraedd, rhoddodd y criw ambiwlans awyr ddyfais ar Sheila o’r enw dyfais LUCAS er mwyn parhau gyda’r CPR. Yna gwnaethant gymryd rheolaeth dros anadlu Sheila drwy roi tiwb anadlu i mewn i’w hysgyfaint a’i chysylltu â pheiriant anadlu.
Dywedodd Sheila, gŵr Oliver: “Defnyddiwyd y diffibriliwr gan y meddygon ar Sheila tra roedd Jon, y peilot, yn rhedeg yn ôl ac ymlaen o’r hofrennydd fynd i nôl y cit – a oedd yn cynnwys y gwely cludo. Glaniodd Jon yr hofrennydd ar chwecheiniog ger maes parcio Rhodfa’r Gorllewin er mwyn bod mor agos â phosibl.”
Diolch byth, ar ôl ychydig funudau o ymyrryd gan y criw, dechreuodd calon Sheila guro eto. Gwnaethant barhau i’w llonyddu a’i hedfan yn uniongyrchol i Ysbyty Gwynedd lle cafodd ei gofal ei drosglwyddo i’r doctoriaid arbenigol.
Ychwanegodd Oliver: “Er i’w chalon stopio am 40 munud, llwyddwyd i’w hadfer a’i chludo i’r ysbyty.”
Cafodd ei gadarnhau’n ddiweddarach yn dilyn sganiau llawn bod ymennydd Sheila wedi gwaedu tra roedd hi yn y dŵr.
Yn dilyn y gwaedlif ar ymennydd Sheila, bu mewn cyflwr critigol am ddeg diwrnod, ac roedd ei phrognosis yn wael.
Trwy ryw wyrth, daeth yn ôl at ei hun ond dechreuodd y gwaedlif waedu unwaith eto, felly cafodd ei chludo ar frys i Ganolfan Walton yn Lerpwl lle cafodd driniaeth coil frys.
Roedd adferiad Sheila yn araf, a bu’n rhaid iddi dderbyn llawdriniaeth arall ar ôl hyn. Flwyddyn yn ddiweddarach ers iddi bron colli ei bywyd, cafodd Sheila ei rhyddhau o’r ysbyty.
Er mwyn dangos ei gwerthfawrogiad tuag at yr elusen, am y ‘gwasanaeth a’r sylw rhagorol’ a gafodd, penderfynodd y teulu godi arian. Cafodd apêl Nadolig ei sefydlu, a gwnaeth yr holl ffrindiau a’r bobl a fu o gymorth iddynt yn ystod y cyfnodau gwaethaf, gyfrannu at yr achos.
Ychwanegodd Oliver: “Gwnaethom godi bron i £2,000, ond mae bywyd yn werth llawer mwy na hynny! Byddwn yn mynd ati i geisio gwneud 2024 yn flwyddyn a fydd yn fythgofiadwy, a byddwn yn parhau i gefnogi’r Ambiwlans Awyr Cymru ac yn annog pawb i ddysgu cymorth cyntaf sylfaenol.”
Hoffai’r teulu ddiolch i bawb a helpodd i achub bywyd Sheila, ac i bawb a chwaraeodd eu rhan yn ei hadferiad parhaus.
Darperir y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus. Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn cyflenwi ymgynghorwyr medrus iawn ac ymarferwyr gofal critigol o’r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.
Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae’n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I’r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae’n cynyddu’r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella’n gynnar yn sylweddol.
Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ambiwlans awyr ymroddedig, ni waeth ble maent wedi’u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy’n achub bywyd mewn argyfwng.