Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Charaewch nawr!
Medi 4, 2025 Hafan Ein Effaith Straeon Cleifion Joshua Tayman

Joshua Tayman stori

5 munud o ddarllen

Ar 26 Mawrth 2022, roedd Joshua Tayman yn heicio gyda’i ffrind Benjamin Robert yn Eryri pan fu bron i Joshua golli ei fywyd.

Wrth iddynt gerdded ar hyd llwybr ar frig rhaeadr, llithrodd Joshua a chwympodd tua 50 troedfedd i mewn i afon yn agos at Raeadr Ewynnol ger Betws y Coed.

Dringodd Benjamin i lawr i’r afon i helpu ei ffrind, a gymerodd tua 5-7 munud, lle y daeth o hyd i Joshua, 20 oed o Ellesmere Port, wyneb i lawr yn y dŵr.

I’w achub rhag boddi, neidiodd Benjamin i mewn i’r dŵr a thynnu Joshua allan. Rhoddodd CPR (dadebru cardio-anadlol) i’w ffrind a llusgodd Joshua ar draws yr afon lle gwnaeth rhywun a oedd yn cerdded heibio, a oedd yn digwydd bod yn feddyg, barhau i roi CPR.

Yn ffodus, ar ôl 10 munud dechreuodd Joshua anadlu ychydig a chyrhaeddodd ambiwlans ffordd, ac Ambiwlans Awyr Cymru yn fuan wedyn.

Y meddygon Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys ar ran Ambiwlans Awyr Cymru oedd y Meddyg Ymgynghorol Gofal Critigol, Gareth Thomas a’r Ymarferydd Gofal Critigol, Ian Thomas. Cyrhaeddodd y tîm ar hofrennydd, a gafodd ei hedfan gan y Peilot Jon Earp.

Ar ôl proses hir i’w ryddhau o ochr y rhaeadr, rhoddodd meddygon Ambiwlans Awyr Cymru anesthetig cyffredinol i Joshua a rhoddwyd tiwb anadlu i mewn i’w ysgyfaint a chafodd ei gysylltu â pheiriant anadlu.

Oherwydd y math o ddigwyddiad a’r posibilrwydd y byddai nifer o anafiadau mewnol sylweddol, rhoddodd meddygon Ambiwlans Awyr Cymru chwe uned o gynnyrch gwaed iddo drwy drallwysiad gwaed. Gwnaethant hefyd atal ei asgwrn cefn rhag symud a rhoi rhwymau pelfig.

Fel arfer byddai’r triniaethau gofal critigol uwch a gafodd Josh ar ochr y ffordd ond ar gael mewn adran achosion brys ysbyty yn unig. Diolch i’r bartneriaeth unigryw rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ac EMRTS, cafodd gofal cyn ysbyty ei gynnig i Joshua, a achubodd ei fywyd yn y pen draw.

Cafodd ei lapio mewn blanced gynhesu a’i hedfan yn uniongyrchol i ganolfan trawma mawr Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke. Yn dilyn asesiad llawn yn yr adran achosion brys a sganiau llawn o’r corff cafodd ei drosglwyddo i’r uned gofal dwys.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio’n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy’n Hedfan’. Mae’r meddygon ymgynghorol a’r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o’r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle’r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol. Mae’r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Mae’r gofal critigol neilltuol hwn yn cynnwys gweinyddu anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed a chynnal mân lawdriniaethau, i gyd yn lleoliad y digwyddiad.

Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd y criwiau ymroddedig, waeth ble maen nhw wedi’u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywydau brys.

Yn rhyfeddol, gwnaeth Joshua oroesi, ond torrodd ei asgwrn cynffon, a dioddefodd hematoma croen pen parwydol, nifer o gleisiau dros ei gorff cyfan ac anaf 4cm y tu ôl i’w glust chwith.

Cadwyd ef mewn coma bwriadol ar beiriant anadlu am dridiau mewn uned gofal dwys, cyn cael ei ddeffro a’i symud oddi ar y peiriant anadlu ar y pedwerydd diwrnod.

Yn anhygoel, o fewn ychydig ddyddiau roedd Joshua yn bwyta, yn yfed ac yn cerdded gyda’r ffisiotherapyddion. Dyma pryd y daeth i gyfarfod Nyrs Gyswllt Cleifion Ambiwlans Awyr Cymru, Hayley Whitehead-Wright. Rôl Hayley yw cefnogi cleifion a’u teuluoedd ar ôl digwyddiad sydyn sydd fel arfer yn drawmatig ac yn newid byd.

Cafodd ei ryddhau o’r ysbyty i fynd adref ar 1 Ebrill, dim ond chwe diwrnod ar ôl ei ddamwain.

Roedd Joshua yn ddiolchgar iawn a dywedodd: “Rwyf wedi gwella’n llwyr ers fy namwain ac mae fy iechyd yn berffaith. Yn gyntaf hoffwn ddiolch i Benji am beryglu ei fywyd ei hun i achub fy mywyd i, a hefyd i bawb yn Ambiwlans Awyr Cymru ac Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke am yr holl ofal a roddwyd i mi.

Dywedodd Hayley Whitehead-Wright: “Mae’n hyfryd clywed er gwaethaf cwymp ofnadwy Joshua a’r ffaith y bu bron iddo foddi, ei fod wedi gwella’n rhyfeddol ac ond wedi treulio chwe diwrnod yn yr ysbyty. Roedd yn lwcus iawn fod ei ffrind Benjamin gydag ef ar y diwrnod.

“Roedd meddygon Ambiwlans Awyr Cymru wedi gallu rhoi Joshua i gysgu i amddiffyn ei ymennydd rhag niwed pellach a rhoddwyd chwe uned o waed iddo ar safle’r ddamwain. Dim ond drwy Ambiwlans Awyr Cymru mae modd rhoi anesthetig a thrallwysiad gwaed y tu allan i amgylchedd ysbyty. Sicrhaodd hyn fod Joshua yn cael y gofal gorau posibl cyn cyrraedd y ganolfan trawma mawr yn Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke.”

Ers ei ddamwain, mae Joshua wedi dod yn dad balch i ferch fach ac wedi mynd yn ei flaen i godi arian i’r Elusen a achubodd ei fywyd.

Roedd Joshua yn ddiolchgar iawn a dywedodd: “Oni bai am help Ambiwlans Awyr Cymru a phawb arall a wnaeth fy helpu, gan gynnwys Benji, fyddwn i ddim yma heddiw i weld fy merch, fy nghariad, na fy mam. Felly, cafodd effaith ar sawl person, nid yn unig arna i.

“Oni bai am y meddygon a ddaeth i fy helpu, a fy ffrind Benji – yn syml, ni fyddwn yn eistedd yma. Rydych yn achub bywydau bob dydd a ni allwn ddiolch digon i chi am hynny. Yn fy marn i, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth hollbwysig a byddai llawer o bobl ar goll hebddo.”