Mae prif nyrs ddeintyddol o Fanceinion yn dweud na fuasai yn fyw heb help Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl iddi ddisgyn mewn digwyddiad marchogaeth a achosodd dri gwaedlif ar yr ymennydd.
Roedd Hannah Watson yn cystadlu mewn cystadleuaeth undydd British Eventing yn Llanymynech yn 2017 pan gafodd anafiadau catastroffig.
Dywedodd Hannah: “Gwnaeth yr hyn a ddechreuodd fel unrhyw gystadleuaeth penwythnos arall droi yn hunllef. Ar y drydedd naid o’r diwedd, baglodd fy ngheffyl wrth lanio a throdd, gan fy nhaflu i’r llawr.
“Sylweddolodd y meddyg a’r parafeddygon yn y gystadleuaeth fy mod wedi cael anaf difrifol am fy mod yn anymwybodol a chefais drawiad.
“Gwnaethant gysylltu â’r ambiwlans awyr a roddodd diwb ynof wedi iddynt gyrraedd a fy rhoi mewn coma meddygol bwriadol cyn fy hedfan i Ysbyty Brenhinol Stoke.
“Dysgais wedyn pa mor gritigol oedd fy sefyllfa. Roeddwn wedi dioddef tri gwaedlif ar yr ymennydd ac torri pedwar asgwrn yn fy nghefn.

Ar hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru y diwrnod hwnnw roedd y Meddyg Ymgynghorol Dr Graham Mayers. Dywedodd: “Caiff timau Ambiwlans Awyr eu galw’n aml i bobl sydd wedi cael anafiadau ymennydd difrifol. P’un a yw’n unigolyn yn disgyn o gefn ceffyl, neu unrhyw reswm arall, mae angen lefel uchel o wybodaeth arbenigol glinigol ar gyfer y sefyllfa i’r unigolyn gael y cyfle gorau i wella.”
Aeth ymlaen i ddweud: “Roedd yn glir bod gan Hannah anafiadau difrifol a allai waethygu oherwydd chwyddo ar yr ymennydd os ni fuasai yn cael ei reoli’n gyflym gan ofal meddygol uwch. Cafodd Hannah anesthetig a alluogodd i ni i’w rhoi ar beiriant anadlu. achine.
“Dyma un o’r ymyriadau pwysicaf er mwyn atal chwyddo ar yr ymennydd. Unwaith y cafodd Hannah yr anesthetig, roedd yn rhaid i ni gadw ei lefelau anesthetig yn gyson yn ogystal â monitro a rheoli ei hanadlu a’i phwysau gwaed fel bod ocsigen yn gallu cyrraedd ei hymennydd.
“Y cam nesaf oedd trosglwyddo Hannah i ysbyty oedd yn gallu delio â’r math hwn o anaf. I Hannah, roedd hyn yn golygu ei throsglwyddo mewn hofrennydd i ganolfan trawma mawr. Roedd yn rhaid bod yn hynod ofalus a chydweithioer mwyn i ni allu ei chadw’n sefydlog yn ystod yr hediad.”
Ychwanegodd: “Dim ond timau gofal critigol hynod hyfforddedig fel y rhai ar gerbydau Ambiwlans Awyr Cymru.a all gyflawni uwch ymyriadau gofal critigol fel hyn. Drwy ddarparu’r math hwn o ymateb yn safle’r digwyddiad, cafodd Hannah y canlyniad gorau posibl.”
Darperir y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi’r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw’r hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o’r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.
Fel gwasanaeth i Gymru gyfan, bydd y criwiau ymroddedig, waeth ble maent wedi’u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy’n achub bywyd mewn argyfwng.
Treuliodd Hannah fis yn yr ysbyty. Dywedodd: “Does gen i fawr ddim cof am yr ysbyty. Dwi’n cael ôl-fflachiau a gallaf gofio yw fy mod yn flin a dryslyd iawn.
Esboniodd un nyrs i fy mam fod hyn i’w ddisgwyl gan bobl ag anafiadau i’r ymennydd. Cawsant sawl cam a chyfnod o’r hyn i’w ddisgwyl. Ymddwyn yn ymosodgar oedd un ohonynt.”
Parhaodd Hannah mewn coma bwriadol am wythnos, a phan ddeffrodd, canfuwyd ei bod yn dioddef o barlys i’w hochr dde, yn ogystal â phroblemau cof tymor byr sylweddol.
Roedd yn “rhwystredig iawn” bod yn gaeth i’r gwely a gorfod dysgu sut i gerdded, siarad, cwblhau tasgau syml o ddydd o ddydd, a dibynnu cymaint ar eraill.
Ar ôl iddi adael yr ysbyty, roedd yn rhaid i Hannah barhau i adsefydlu’n gorfforol a seicolegol.

Wrth iddi wella, cafodd Hannah gefnogaeth gan wasanaeth ôl-ofal Ambiwlans Awyr Cymru gan Hayley Whitehead-Wright, un o’u Nyrsys Cyswllt Cleifion.
Am fod Hannah mor annibynnol, roedd yn awyddus i fynd yn ôl i’r swydd roedd wrth ei bodd yn ei gwneud. Ond mae’n cyfaddef ei bod yn anodd iddi pan roedd y tasgau oedd yn arfer bod yn hawdd bellach yn anodd iawn i’w cwblhau.
“Cymerodd dros flwyddyn i ddychwelyd i’r gwaith yn llawn amser – roeddwn wir eisiau dychwelyd yn gynt ond roedd y blinder a’r problemau gyda’r cof yn fy nal yn ôl.
Dywedodd Hannah fod y ddamwain wedi rhoi lefel newydd o barch iddi am ei chorff a’i hiechyd. Dywedodd: “Rwy’n hynod ddiolchgar am y pethau bychain. Rwy’n myfyrio a meddwl am y cyfnod pan na allwn symud na gadael y gwely.”
Pan oedd yn ddigon cryf, dechreuodd redeg. Mae Hannah’n cyfaddef nad yw’n “redwr naturiol” ond mae wrth ei bodd yn gwisgo ei hesgidiau rhedeg a loncian am ychydig filltiroedd.
Dywedodd: “Mae gen i nawr restr ddymuniadau wirion ac roedd cwblhau 10k arni i ddechrau. Cyn y pandemig, roeddwn wedi cofrestru i wneud ras ond daeth y cyfnod clo. Felly, cefais gefnogaeth gan fy ffrindiau yn y gwaith i redeg mewn parc lleol. Gwnaethom i gyd wisgo crysau-t Ambiwlans Awyr Cymru. Roeddwn i’n gwisgo rhwymyn ffug ar fy mhen, a gwnaethon nhw wisgo pennau ceffylau a hetiau hofrennydd.
Mae Hannah eisiau parhau i godi cymaint o arian â phosibl ar gyfer yr Elusen ac mae bellach wedi cadarnhau ei lle ym Marathon Dulyn ym mis Hydref 2025.
Mae gan Hannah lawer o barch at glinigwyr Ambiwlans Awyr Cymru.
Dywedodd: “Heb os, achubodd criw yr ambiwlans awyr fy mywyd. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r clinigwyr a wnaeth fy helpu, ac rwyf eisiau gwneud popeth yn fy ngallu i helpu i gefnogi’r gwaith maent yn ei wneud.
“Cefais wybod pe bawn wedi cael y gofal yn y safle a heb gael fy hedfan i’r ysbyty, mae’n bosibl na fuaswn i wedi byw.
“Rwy’n ddiolchgar o fod wedi cael y cymorth roedd ei angen arnaf, a gwnaeth fy ngalluogi i wella mewn modd cadarnhaol, ond rwy’n sylweddoli y gallai fod wedi bod mor wahanol.”
Ychwanegodd: “Hebddyn nhw, fuaswn i ddim lle rydw i heddiw. Maent yn anhygoel, ac maent yn bobl hyfryd hefyd.
“Rydym mor lwcus i gael pobl sydd eisiau gwneud y mathau hyn o swyddi. Mae’n rhaid ei fod yn heriol yn emosiynol ac yn gorfforol ar adegau.
“Hebddyn nhw, ni fuasai llawer o bobl ledled Cymru, fel fi, yn deffro ac yn byw eu bywydau. Rwy’n hynod ddiolchgar.”