Yr hyn y dylid ei wneud os byddwch yn gweld ein hofrenyddion
How to stay safe when our crew are attending an incident.
Bob dydd, mae ein criw ar gael i ddarparu gofal critigol sy’n achub bywydau i’r rhai sydd mewn sefyllfa sy’n bygwth bywyd neu rannau o’r corff. Nes y bydd y ffôn coch yn canu, ni fydd ganddynt syniad pa fath o argyfwng y byddant yn ymateb iddo, na pha ran o Gymru y byddant yn teithio iddi.
Ar ôl ymateb i fwy na 53,000 o alwadau, mae’n debygol iawn y byddwch wedi gweld un o’n dreigiau Cymreig yn hedfan ledled Cymru, neu hyd yn oed yn glanio gerllaw. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, bydd ein peilotiaid yn chwilio am y lle agosaf a mwyaf diogel i lanio, a allai fod yn gae, yn gae pêl-droed, yn barc, neu ar y ffordd. Er ein bod yn gwerthfawrogi y gall fod yn gyffrous iawn gweld ein hofrenyddion a’r criw sy’n achub bywydau yn gweithio, gofynnwn yn garedig i chi ddarllen y cyngor hwn am fod llawer o bethau i’w hystyried pan fyddwch yn gweld ambiwlans awyr.
Prif ffocws ein meddygon gofal critigol ar ôl glanio yw mynd at y claf ac yna asesu ei gyflwr. Mae’r argyfyngau rydym yn ymateb iddynt yn bygwth bywyd neu rannau o’r corff, felly gorau po gyntaf y gallant wneud hyn er mwyn i’r claf gael y driniaeth sydd ei hangen arno.
Yn anffodus, bu achlysuron lle y bu’n rhaid i ambiwlansys awyr atal y broses lanio o ganlyniad i bobl yn rhwystro eu hardal lanio. Mae hyn yn cael effaith ar y claf sydd mewn angen am ei fod yn achosi oedi i’r tîm.
Er eich diogelwch chi, a diogelwch ein criw, dyma rai awgrymiadau defnyddiol i’w dilyn os byddwch yn gweld ein criw:
Helpwch ein criw
Mae sawl ffordd y gallwch helpu ein criw i wneud y broses lanio mor hawdd ag y gall fod. Os byddwch ar draeth prysur neu’n mwynhau picnic ac yn gweld ein criw yn dod tuag atoch, rhowch bopeth sydd gyda chi i gadw, fel y gallwch symud os byddant yn glanio’n agos atoch.
Camwch i ffwrdd pan fydd yr hofrennydd yn glanio neu’n esgyn
Er y gallwch gael eich temtio i ruthro tuag at yr hofrennydd, y peth gorau y gallwch ei wneud yw cadw mor bell i ffwrdd â phosibl nes bydd yr hofrennydd wedi glanio. Os byddwch mewn cae, ewch i’r cloddiau allanol, ac os byddwch mewn amgylchedd trefol, safwch i ffwrdd mor bell ag y gallwch chi. Mae’r drafft y mae ein llafnau yn ei greu yn bwerus iawn a gallai eich gwthio oddi ar eich traed.
Gafaelwch mewn unrhyw eiddo
Mae ein hofrenyddion yn hedfan ar gyflymderau uchel, ac mae’r drafft y mae ein llafnau yn ei greu yn bwerus iawn a gallai eich gwthio oddi ar eich traed. Felly dylech sicrhau eich bod yn cadw eich plant a/neu eich anifeiliaid anwes yn ddiogel ac yn agos atoch. Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gafael yn dynnu mewn eitemau rhydd, fel bagiau, cadeiriau gwthio, neu unrhyw beth y gallwch fod yn ei gario.
Mynd tuag at yr hofrennydd
Ar ôl glanio, gallwch gael eich temtio i redeg tuag at yr hofrennydd. Ond, bydd angen i’r tîm meddygol fynd at y claf, felly cadwch i ffwrdd a pheidiwch â mynd tuag at yr hofrennydd. Bydd ein peilotiaid yn aros gyda’r hofrennydd bob amser, ac yn aml, byddant yn eich galluogi i fynd at yr hofrennydd pan fydd yn addas er mwyn i chi gael golwg agosach neu ofyn cwestiynau. Peidiwch â chyffwrdd unrhyw beth oni bai eich bod yn cael caniatâd, a chadwch anifeiliaid anwes a phlant yn agos atoch.
Ar ôl i’r tîm meddygol ddechrau dychwelyd, symudwch i ffwrdd i bellter diogel er mwyn eu galluogi i drosglwyddo’r claf yn ddiogel a llwytho eu cyfarpar.
Byddwch yn ofalus iawn wrth dynnu ffotograffau neu fideos
Rydym yn mwynhau gweld y lluniau a’r fideos rydych yn eu tynnu o’n hofrenyddion, ond byddwch yn ymwybodol o’r sefyllfa a gwnewch yn siŵr na fyddwch yn cynnwys unrhyw gleifion nac yn atal ein criw rhag gwneud eu gwaith. Mae’n bur debygol y bydd y cleifion rydym yn ymateb iddynt yn wynebu diwrnod gwaethaf eu bywydau, ac mae diogelu eu preifatrwydd yn bwysig iawn i ni.
Rydyn ni’n dibynnu ar eich cefnogaeth chi i ddarparu ein gwasanaeth ledled Cymru. Whether you donate, volunteer or just help our crews to do their job when they land nearby, we sincerely appreciate your support.