Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Charaewch nawr!
Medi 21, 2026 Hafan The Charity Newyddion Rheilffordd Mynydd Brycheiniog i gynnal penwythnos codi arian i elusen.

Rheilffordd Mynydd Brycheiniog i gynnal penwythnos codi arian i elusen.

5 munud o ddarllen

Bydd Rheilffordd Mynydd Brycheiniog yn cynnal penwythnos codi arian arbennig er budd elusen achub bywyd ar ôl i’w meddygon gael eu galw allan i argyfwng meddygol ger y rheilffordd.

Glaniodd Ambiwlans Awyr Cymru ym maes parcio newydd Rheilffordd Mynydd Brycheiniog, a oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd lleoliadau glanio addas a mynediad cyflym yn ystod argyfyngau meddygol.

Cynhelir y penwythnos codi arian arbennig ddydd Sadwrn 24 Hydref a dydd Sul 25 Hydref.

Roedd Rheilffordd Mynydd Brycheiniog eisiau dod o hyd i ffordd ymarferol o gefnogi’r Elusen a helpu ymwelwyr i ddysgu mwy. Bydd y rheilffordd yn rhoi £1 i Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer pob teithiwr sy’n teithio ar Reilffordd Mynydd Brycheiniog yn ystod y penwythnos hwnnw.

Yn ogystal â rhoddion drwy docynnau i deithwyr, bydd gan Reilffordd Mynydd Brycheiniog hefyd ffyrdd eraill y gall teithwyr helpu’r gwasanaeth achub bywydau, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed ar hyn o bryd.

Bydd teithwyr yn cael cyfle i ychwanegu rhodd ychwanegol wrth archebu eu tocynnau trên, yn ogystal â rhoi rhodd ar y diwrnod.

Bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn bresennol yn ystod y penwythnos a bydd yn gwerthu nwyddau er budd yr Elusen.

Dywedodd Stuart Williams, Rheolwr Cyffredinol Rheilffordd Mynydd Brycheiniog: “Mae’r ffaith bod Ambiwlans Awyr Cymru wedi defnyddio ein maes parcio newydd yn ddiweddar wedi dangos i ni pa mor hanfodol yw’r gwasanaeth hwn. Roedd yr hofrennydd yn gallu glanio’n agos at leoliad argyfwng, gan roi mynediad cyflym a syml i’r tîm meddygol at y claf pan oedd pob munud yn bwysig.

Yn fy rôl wirfoddol fel Ymatebydd Cyntaf Cymunedol, rwyf hefyd wedi bod yn bersonol mewn digwyddiadau lle rydyn ni wedi cael cefnogaeth clinigwyr arbenigol Ambiwlans Awyr Cymru. Mae eu sgiliau a’u gallu i gyrraedd cleifion yn gyflym yn arbennig o bwysig mewn cymunedau gwledig fel ein cymuned ni.

“Felly, rydyn ni’n hynod falch o gefnogi’r Elusen hon sy’n achub bywydau ac rydyn ni’n gobeithio y bydd ein penwythnos codi arian yn codi arian gwerthfawr ac yn codi ymwybyddiaeth o’i gwaith rhyfeddol.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty at gleifion ac, os bydd angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf.

Caiff ei darparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG i weithio yng ngherbydau’r Elusen.

Mae’r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed, a chynnal mân lawdriniaethau, i gyd yn y fan lle bu’r digwyddiad.

Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd criwiau ymroddedig yr elusen, ble bynnag y maen nhw wedi’u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal brys sy’n achub bywydau.

Dywedodd Hugh Tamlyn, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch o galon i Reilffordd Mynydd Brycheiniog am ddewis codi arian ar gyfer ein gwasanaeth achub bywyd i Gymru gyfan. Mae’n wych clywed bod y rheilffordd eisiau codi arian i’n Helusen ar ôl i’n hofrennydd orfod glanio yn ei maes parcio. Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth gan Reilffordd Mynydd Brycheiniog.

“Mae’r penwythnos codi arian yn swnio fel digwyddiad codi arian gwych. Bydd ein tîm yn bresennol felly dewch draw i ddysgu mwy am ein helusen Cymru gyfan.

“Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £13 miliwn bob blwyddyn i gadw’n hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Bydd y penwythnos codi arian arbennig hwn yn helpu i achub bywydau ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn.”

I gael rhagor o wybodaeth am Reilffordd Mynydd Brycheiniog ewch i www.bmr.wales