Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ymuno â Restart a Heart Live! yn yr hydref ar gyfer digwyddiad hyfforddi CPR mwyaf y DU.
Mae’r ffrwd fyw am ddim yn dod â hyfforddiant CPR ac ymgyfarwyddo ag AED yn uniongyrchol i ysgolion a chymunedau.
Er nad yw’n cymryd lle hyfforddiant ymarferol, gall y ffrwd fyw gyflwyno sgiliau achub bywyd, dechrau sgyrsiau gartref, a helpu mwy o bobl i weld eu hunain fel achubwyr bywyd posibl.
Bydd Restart a Heart Live yn cael ei gynnal ddydd Iau 1 Hydref 2026, gyda sesiynau’n cael eu cynnal rhwng 9am a 7pm.
Y llynedd, cyrhaeddodd Restart a Heart Live dros 130,000 o wylwyr, a oedd yn gynnydd sylweddol tuag at ei nod o hyfforddi miliwn o bobl erbyn 2027.
Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: Mae “Restart a Heart Live” yn gynllun pwerus sy’n helpu pobl ifanc i ddysgu sgiliau achub bywyd.
“Rydym ni’n falch o gefnogi’r digwyddiad hwn, sy’n adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud yn ein cymunedau i roi’r hyder i bobl roi CPR pan fo angen.
“Fel darparwr gofal brys, rydym ni’n rhan o’r gadwyn oroesi, ond mae’r cyfan yn dechrau gyda cael pobl gerllaw sy’n gallu ailgychwyn calon. Gyda’n gilydd, gallwn ni achub bywydau.”
Yn ystod y digwyddiad, bydd gwylwyr yn gweld fideo sy’n mynd â nhw y tu ôl i’r llenni gydag elusen ambiwlans awyr mwyaf y DU.
Ychwanegodd Dr Barnes: “Braf ydy gweithio gyda’n cydweithwyr o sefydliadau golau glas ledled y DU mewn ffordd mor ystyrlon.
“Gobeithio y bydd ein cyfraniad yn rhoi gwell dealltwriaeth i gymunedau o bwy ydym ni a beth rydym ni’n ei wneud.”
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, gan fynd â thriniaethau safonol ysbyty at gleifion ac, os oes angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf.
Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar gyfraniadau cyhoeddus i godi’r £13 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw’r hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.
Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG i weithio yng ngherbydau’r Elusen.
Mae’r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed, a chynnal mân lawdriniaethau, i gyd yn y fan lle bu’r digwyddiad.
Fel gwasanaeth ar gyfer Cymru gyfan, bydd criwiau ymroddedig yr elusen, ble bynnag y maen nhw wedi’u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal brys sy’n achub bywydau.
Mae Restart a Heart Live yn cael ei ariannu gan nifer o bartneriaid, gan gynnwys Achub Bywyd Cymru, sy’n rhan o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Sefydlwyd Achub Bywyd Cymru i wella cyfraddau goroesi yn dilyn ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty ledled Cymru, ac mae’n cael ei gefnogi gan sefydliadau iechyd a gwasanaethau brys, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru.
Dywedodd Julie Starling, Rheolwr Rhaglen Glinigol Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty ar gyfer Achub Bywyd Cymru: “Mae Restart a Heart Live yn rhaglen sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn ar y cyd â sefydliadau ledled y DU.
“Gall unrhyw un gofrestru i gymryd rhan ar y diwrnod! Rydym ni eisiau i gymaint â phosibl o bobl gymryd rhan. Ein nod yw helpu i greu gwlad o achubwyr bywyd drwy annog pobl i ddysgu CPR.”
Credir mai Cymru sydd â’r gyfradd oroesi waethaf o wledydd y DU o ran ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty. Mae ymchwil yn dangos bod CPR cynnar a defnyddio diffibriliwr yn gallu o leiaf ddyblu siawns person o oroesi.
Ychwanegodd Julie: “Mae dros 70% o ataliadau ar y galon yn digwydd gartref, felly mae achub bywyd yn aml yn dibynnu ar deulu, ffrindiau a’r bobl gerllaw. Gallai bywyd ddibynnu arnoch chi.
“Rydym ni eisiau grymuso pobl mewn cymunedau lleol i deimlo’n hyderus wrth roi CPR. Y cyfan sydd ei angen yw pâr o ddwylo a’r gallu i ddilyn cyfarwyddiadau.
“Cofiwch, mae help wrth law. Drwy ffonio 999 a gwrando’n astud ar y sawl sy’n delio â’r alwad, gallwch chi wneud gwahaniaeth.”