
WRTH i drigolion a phobl ar wyliau heidio y tu allan i fwynhau heulwen y penwythnos, roedd y nifer o alwadau brys wedi cynyddu’n sylweddol i Ambiwlans Awyr Cymru.
Roedd yr elusen gwasanaeth brys wedi ymateb i gyfanswm o 33 o argyfyngau ar draws Cymru, gan fynd i ddamweiniau beiciau mynydd a chwaraeon, ataliadau ar y galon, damweiniau ffordd a damweiniau ar draethau.
De Cymru a welodd ei hofrennydd coch yn hedfan yn ôl ac ymlaen i’r ysbyty'r nifer mwyaf o weithiau, gan ymateb i swm anhygoel o 18 o argyfyngau. Roedd y criw, sydd wedi eu lleoli yn Abertawe, hyd yn oed wedi hedfan cyn belled i’r gogledd â Llandrindod er mwyn cyrraedd damwain beic modur tra oedd hofrennydd y Trallwng yr elusen yn brysur yn ymateb i argyfwng arall.
Dywedodd parafeddyg awyr Abertawe, Anerurin Heath: “Misoedd yr haf yw’r tymor prysuraf i ni’n draddodiadol wrth i bobl fynd allan i fwynhau’r tywydd. Yn anffodus, mae’n golygu bod mwy o geir ar yr heolydd a mwy o ddamweiniau yn digwydd mewn mannau prydferth anghysbell.
“Y penwythnos hwn yn sicr oedd un o’n rhai prysuraf eto ac roedd yr hofrenyddion newydd wedi’n cynorthwyo ni i gyrraedd yr argyfyngau yma yn gyflym. Rydym yn medru hedfan ymhellach heb orfod ail-lenwi’r tanc olew sydd yn golygu ein bod yn medru mynd o un digwyddiad yn syth i’r llall.
“Dros y penwythnos, aethom allan peth cyntaf yn y bore ac aros allan drwy’r dydd. Mae wedi bod yn waith dwys iawn ond dyna paham yr ydym yma.”