
MAE AMBIWLANS AWYR CYMRU yn ymuno â’r dathliadau ar Ddydd Gŵyl Dewi gyda’i garreg filltir arbennig ei hun, wrth i’r elusen ddathlu ei phenblwydd yn naw mlwydd oed.
Mae’r elusen Cymru gyfan yn dathlu’r diwrnod i’r gwasanaeth ifanc ledu ei adenydd am y tro cyntaf erioed wrth hedfan ar y 1af o Fawrth 2001 mewn ymateb i ddigwyddiad yng nghlwb rygbi Glyn-nedd yn Ne Cymru.
Roedd y parafeddygon hofrennydd a oedd newydd eu hyfforddi, wedi trin a chludo chwaraewr rygbi a oedd ag anaf gwddf difrifol mewn hofrennydd i’r uned drawma arbenigol yn Ysbyty Treforys, Abertawe.
Ers hynny, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi datblygu i mewn i wasanaeth tri hofrennydd sydd yn medru cyrraedd unrhyw ddigwyddiad brys o fewn 20 munud.
Y llynedd, dechreuodd yr elusen ar bennod newydd drwy gyflwyno prydles newydd o hofrenyddion sydd wedi rhoi hwb i’r gwasanaeth gyda’r cyfleusterau, y dechnoleg a’r gofal meddygol diweddaraf tra yn yr awyr.
Heddiw, wrth i Ambiwlans Awyr Cymru ddathlu ei ben-blwydd yn naw mlwydd oed, mae’r gwasanaeth yn agos at ymateb i ymron 12,000 o ddigwyddiadau.
Dywedodd prif weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru, Angela Hughes: “Mae cyrraedd ymron 12,000 o ddigwyddiadau ar ein penblwydd yn dangos pa mor hanfodol yw’r ambiwlans awyr yng Nghymru. Mewn naw mlynedd yn unig, mae’r hofrenyddion wedi cynorthwyo gydag ymron 12,000 o ddigwyddiadau brys, gan arbed nifer o fywydau.”
Ychwanegodd: “Mae’r orchest anhygoel yn dathlu ymdrechion parhaus yr elusen a’i chefnogwyr. Diolch i’r gefnogaeth hanfodol hon o gymunedau ar draws Cymru, rydym yn bwriadu cynnal ein prydles o hofrenyddion newydd a pharau i gynorthwyo pobl mewn sefyllfaoedd sydd yn peryglu bywyd.”