
MAE PRIF WEITHREDWR AMBIWLANS AWYR CYMRU, Angela Hughes, wedi derbyn gwobr arbennig am wasanaethau i ofal cyn mynd i’r ysbyty yng Nghymru.
Daeth y wobr oddi wrth Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a oedd wedi disgrifio Mrs Hughes fel “unigolyn sydd ar flaen y gad” am ei gorchestion wrth sefydlu’r elusen ambiwlans awyr yng Nghymru.
Derbyniodd y wobr oddi wrth Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Stuart Fletcher, yng nghyfarfod bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn y Drenewydd y mis hwn.
Daw’r wobr fel canmoliaeth yn dilyn ymgyrch ddiweddar Mrs Hughes i gyflwyno cenhedlaeth newydd o hofrenyddion i’r elusen Gymreig.
Cyflwynwyd yr hofrenyddion EC135, sydd wedi eu hadeiladu’n bwrpasol, yn 2009 yn dilyn ymgyrch fawr a luniwyd gan Mrs Hughes, a alwyd yr Apêl £1.
Esboniodd Mr Fletcher ei fod am dalu teyrnged i’r gwaith sydd wedi ei wneud gan Mrs Hughes er mwyn sicrhau cyfarpar arbed bywyd mor hanfodol i Gymru.
Dywedodd ef: “Mae’r genhedlaeth newydd o hofrenyddion eisoes yn gwneud gwahaniaeth positif enfawr i fywydau nifer o drigolion Cymru. Mae’n gymaint o gaffaeliad i wasanaethau meddygol brys y wlad yn sgîl ei allu i gyrraedd tirwedd mor amrywiol ac fel arfer mor heriol.
“Mae’r wobr hon yn cydnabod y gwaith anhygoel sydd wedi ei wneud gan Angela a’i thîm wrth hel arian ac ennyn diddordeb cyhoeddus yn yr hofrenyddion newydd. Rwyf yn ei llongyfarch hi a phawb arall sydd wedi chwarae rhan i wneud cymaint o wahaniaeth i ofal cyn mynd i’r ysbyty yng Nghymru.”
Dywedodd Mrs Hughes: “Rwyf yn falch iawn o’r ffaith mai elusen Cymru gyfan yw hon; mae’n elusen ar gyfer pobl Cymru, yn cael ei hariannu gan bobl Cymru - ac maent yn ei chefnogi’n galonnog. Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi dod cryn ffordd mewn wyth mlynedd; mae gennym dri hofrennydd nawr ar draws y wlad sydd yn golygu y gallwn gyrraedd unrhyw ddigwyddiad o fewn 20 munud.
“Mae’n bleser gennyf dderbyn y wobr hon ac mae’n deyrnged i bawb sydd wedi chwarae rhan wrth wneud Ambiwlans Awyr Cymru yr hyn ydyw heddiw.”