Ambiwlans Awyr Cymru

Cyfrannwch ar-lein neu ffoniwch 0844 85 84 999 Cownter Cyrch 13793

Newyddion

Gŵr 80 mlwydd oed yn cychwyn ar daith gerdded penblwydd noddedig

01/03/2010

MAE PETER WILLIAMAS o BONTARFYNACH ar fin cychwyn ar daith gerdded 20 milltir ar ei ben ei hun er budd Ambiwlans Awyr Cymru, a hynny ar ei benblwydd yn 81 mlwydd oed.

Mae’r cerddwr brwd yn bwriadu ymweld â’r chwe eglwys sydd yn ei ardal dros ddau ddiwrnod. Mae’r daith yn dechrau ar y 4ydd o Fawrth - ar ei benblwydd yn 81 mlwydd oed - a bydd yn mynd ag ef i’r eglwysi canlynol:

Ysbyty Ystwyth, Hafod, Ysbyty Cynfyn, Llantrisant, Llanafan a Llanfihangel-y-Creuddyn.

Y llynedd, cerddodd Peter 10 milltir ar ei benblwydd yn 80 mlwydd oed a phenderfynodd ddyblu’r her eleni ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Wedi cael y diagnosis bod clefyd y galon arno yn y 1970au, cafodd Peter lawdriniaeth ddargyfeiriol driphlyg ddeng mlynedd ôl. Ond nid yw cyflwr calon Peter wedi ei atal rhag mynd ati i wneud teithiau cerdded noddedig, sydd yn ei dyb ef, yn ei gynorthwyo i gadw’n heini.

Dywedodd ef: “Rwyf wedi bod yn ffodus, ac am basio rhywbeth ymlaen. Dewisais Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd mewn ardal fel hon lle’r ydym yn byw ynddi, nid ydych byth yn gwybod pa bryd y bydd ei angen arnoch. Mae’r hofrennydd yn bwysig ym Mhontarfynach.”

Gall trigolion noddi Peter drwy gasglu ffurflen noddi o Swyddfa Bost Pontarfynach neu o Westy’r Hafod Arms.