Ambiwlans Awyr Cymru

Cyfrannwch ar-lein neu ffoniwch 0844 85 84 999 Cownter Cyrch 13793

Newyddion

Rhedwraig elusen yn cael ei dewis ar gyfer ‘Team Freebird’

19/02/2010

MAE’R RHEDWRAIG elusen Tory Furber wedi ei dewis fel rhan o grŵp dethol i gymryd rhan mewn pum treiathlon drwy 2010.

Mae’r fam i ddau yn un o chwe chystadleuwr sydd wedi ei ddewis ar gyfer ‘Team Freebird’; grŵp arbennig a fydd yn rhedeg cyfres o rasus treiathlon yn rhanbarth Swydd Efrog a Humberside.  
Dewiswyd Tory gan y trefnwyr Freebird Events, sydd yn arbenigo yn rhai o’r rasus treiathlon wedi’u selio mewn pyllau, mwyaf yn Lloegr.

Wrth gystadlu ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a’r elusen iechyd meddwl Mind, mae Tory yn cofleidio ei safle newydd ond heriol.

“Mae cyfuno fy hyfforddiant gyda gwaith a magu teulu yn galed ond mae’r teitl wedi rhoi ffocws i mi. Rhedeg yw fy mhrif gryfder ond nid wyf erioed wedi cystadlu mewn treiathlon o’r blaen,” meddai hi.

“Dewisais gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru er cof am fy mrawd Giles, a oedd yn barafeddyg yn y Trallwng.”

Bydd Tory yn cychwyn ei her, sy’n cynnwys pum digwyddiad, yn Nhreiathlon Skipton ar y 18fed o Ebrill; ac yna yn rasus treiathlon Driffield, Allerthorpe Sprint, Beverley a’r Allerthorpe Classic yn hwyrach eleni.

Fel athletwraig treiathlon Team Freebird, bydd Tory yn codi arian ac ymwybyddiaeth o Ambiwlans Awyr Cymru drwy 2010 ac yn annog pawb i noddi drwy www.justgiving.com/Victoria-Furbur-0