Ambiwlans Awyr Cymru

Cyfrannwch ar-lein neu ffoniwch 0844 85 84 999 Cownter Cyrch 13793

Newyddion

Tîm Craig yn Hel £3000 i Ambiwlans Awyr Cymru

12/02/2010

MAE GRŴP o ffrindiau a theulu a oedd wedi rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er cof am y glaslanc Craig Owen wedi cyfrannu £3000 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae’r grŵp, a adwaenir fel ‘Tîm Craig’, wedi cyfrannu teirgwaith y targed codi arian gwreiddiol i’r elusen, a hynny diolch i gefnogaeth ddiwyro yn ardal Wrecsam.

Dywedodd ei ffrind gorau Curtis Wynne: “Hoffwn ddiolch i bawb a oedd wedi ein cynorthwyo i hel y swm yma: Shotton Paper am gyfrannu £250; Arriva am y festiau rhedeg a’r tocynnau trên i Gaerdydd; Ysgol Bryn Alyn, Ysgol Gynradd Sirol Black Lane ac Ysgol Penrhyn; ac i bob unigolyn a oedd wedi ein noddi.”

Ymunwyd Curtis gan ei dad, Andrew Wynne, John Darlington, Ryan Thomas, Peter Davies a Mike Hughes, a oedd oll wedi gorffen o fewn 1 awr 41 munud a 2 awr 17 munud.

“Roedd pawb ohonom yn teimlo’n gyfforddus am tua’r 10 milltir gyntaf ond roedd y darn olaf wir yn peri cryn boen ond roedd gwybod ein bod yn gwneud hyn ar gyfer Craig yn ein hannog ymlaen,” dywedodd Curtis.

“Roedd croesi’r llinell ar ôl rhedeg am gyfnod mor hir a heriol yn destun pleser i ni gyd - o wybod ein bod wedi gwneud hyn ar gyfer cystal achos ac er cof am fachgen mor hynod”

Bu farw Craig Owen, 16, o Frymbo, tra ar wyliau ar ôl i dwnnel tywod ddisgyn ar ei ben yn Nhraethau Cefn Sidan, Penbre, yn Awst 2008.

Dywedodd Curtis: “Gwnaethom benderfynu hel arian i Ambiwlans Awyr Cymru am iddynt gynorthwyo i achub Craig o’r ddamwain yn Ne Cymru.  

“Craig oedd fy ffrind gorau ac roedd yn fachgen anhygoel. Roedd wrth ei fodd â rygbi, yn gwneud yn dda iawn yn yr ysgol ac yn meddu ar synnwyr digrifwch gwych. Nid oedd byth yn peidio â gwenu a dyna oedd ei nodwedd arbennig – ei wên.”