Ambiwlans Awyr Cymru

Cyfrannwch ar-lein neu ffoniwch 0844 85 84 999 Cownter Cyrch 13793

Newyddion

Angen gwirfoddolwyr ar gyfer siop Ambiwlans Awyr Cymru newydd

20/01/2010

MAE AMBIWLANS AWYR CYMRU yn apelio at drigolion yn ardal Aberystwyth i gynorthwyo i wneud gwahaniaeth arbed bywyd ar ôl sicrhau ei siop gyntaf yn y sir.

Mae’r elusen gwasanaeth brys yn edrych am unrhyw un sydd yn medru cynnig help llaw yn y siop newydd yn 37-39, Ffordd y Môr, SY23 2AF, sydd i agor ym mis Chwefror.

Dyma siop gyntaf Ambiwlans Awyr Cymru yng Ngheredigion. Yn ogystal â gwerthu nwyddau swyddogol, bydd y siop hefyd yn cynnig amrywiaeth ardderchog o gelfi, dillad, teganau, cerddoriaeth, ffilmiau a thrugareddau.

Bydd yr elusen yn cynnig gwasanaeth casglu yn rhad ac am ddim ar gyfer nwyddau sydd i’w cyfrannu a bydd yn bosib gadael eitemau yn y siop hefyd.

Wedi'i ariannu gan roddion cyhoeddus yn unig, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gwasanaeth ymateb a thriniaeth parafeddyg cyflym drwy’r tri hofrennydd ar draws y sir. Ers ei lansiad ar Ddydd Gŵyl Dewi ym 2001, mae’r gwasanaeth wedi ymateb i 12,000 o alwadau o’i ganolfannau awyr yng nghanolbarth, gogledd a de Cymru.

Mae angen casglu mwy na £5 miliwn y flwyddyn er mwyn darparu’r gwasanaeth ac mae’i siopau lleol yn darparu incwm hanfodol i’r elusen.

Er mwyn canfod sut y gallwch chi gynorthwyo, ffoniwch Margaret os gwelwch yn dda at 0844 85 84 999; e-bostiwch margaret.squire@walesairambulance.com; neu ysgrifennwch at Ambiwlans Awyr Cymru, Tŷ Elusen, Pentref Busnes Tawe, Ffordd y Ffenics, Abertawe. SA7 9LA.