
MAE Ambiwlans Awyr Cymru wedi ennill y teitl, Ambiwlans Awyr y Flwyddyn, yn y Gwobrwyon Busnes Iechyd cenedlaethol 2009.
Roedd y seremoni wobrwyo flynyddol, sydd yn dathlu rhagoriaeth ar draws y gwasanaeth iechyd, wedi cyflwyno’r categori newydd yma eleni a dyma’r teitl cyntaf o’i fath yn y DU.
Cyflwynodd darlledwr y BBC Nicholas Owen y wobr i Brif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru Angela Hughes yn Stadiwm yr Emirates yn Llundain.
Dywedodd Mrs Hughes: “Fel categori newydd yn y Gwobrwyon Busnes Iechyd, mae hyn wedi bod yn ddathliad ardderchog ar gyfer yr holl elusennau ambiwlans awyr ar draws y DU.
“Mae llwyddiant Ambiwlans Awyr Cymru i ennill y wobr yn gydnabyddiaeth o’r gefnogaeth wych tuag at yr elusen oddi wrth pobl Cymru a’r bywydau dirifedi sydd wedi eu harbed gan ymateb cyflym ein criwiau awyr.”
Cyflwynwyd y wobr eleni i gydnabod gwaith y sector ambiwlans awyr yn Lloegr a Chymru, sydd yn cynnwys 22 elusen unigol sydd gyda’i gilydd yn casglu mwy na £50 miliwn pob blwyddyn mewn cyllid ar gyfer gweithredu.
Roedd pum elusen ambiwlans awyr ar y rhestr fer, yn canolbwyntio ar y prosiectau mawr y mae’r elusennau yma wedi eu cynnal dros y 18 mis diwethaf.
Mae wedi bod yn flwyddyn carreg filltir ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl llwyddo i sicrhau prydles o hofrenyddion Cenhedlaeth Newydd yn dilyn ymgyrch 12 mis, yr Apêl £1.
Dywedodd Cadeirydd Ambiwlans Awyr Cymru, Bob Palmer: “Mae’r hofrenyddion newydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r gwaith a wneir gan y criwiau awyr. Wrth ddiolch am y gefnogaeth galonnog sydd wedi ei derbyn ar draws y wlad, rydym wedi llwyddo i gyrraedd ein targed o brydles newydd ac rydym am lafurio i’w chynnal pob blwyddyn. Mae’r wobr hon yn ddiweddglo gwych i flwyddyn sydd wedi bod yn gymaint o garreg filltir.”