Ambiwlans Awyr Cymru

Cyfrannwch ar-lein neu ffoniwch 0844 85 84 999 Cownter Cyrch 13793

Amdanom Ni

Cyflwyniad i Ambiwlans Awyr Cymru

 

Mae Ambiwlans Awyr Cymru’n elusen i Gymru gyfan sy’n darparu gwasanaeth

awyr brys hanfodol i’r rheiny sy’n wynebu salwch neu anafiadau sy’n bygwth bywyd

 

Pam mae eu hangen?

 

Oherwydd ei phoblogaeth wasgaredig a thirwedd amrywiol, mae llawer o bobl Cymru yn byw mewn lleoliadau ynysig ymhell o wasanaeth damwain ac argyfwng. Hefyd, mae’r broblem fythol gynyddol o dagfeydd a gwrthdrawiadau traffig mewn ardaloedd mwy trefol yn golygu amseroedd ymateb arafach i ambiwlansys ar y ddaear. Am y rhesymau yma, mae yna angen cydnabyddedig am dair hofrennydd ar ddyletswydd gweithredol 365 diwrnod y flwyddyn.

 

Sut ydym yn gwneud gwahaniaeth?

 

Credir yn gyffredinol bod gobeithion claf o oroesi ac o brofi adferiad buan yn cynyddu os derbyniant y gofal cywir o fewn yr awr gyntaf, yr hyn a elwir yr Awr Aur. Mae’r amseroedd ymateb cyflym a’r gofal meddygol arbenigol a ddarperir gan griwiau Ambiwlans Awyr Cymru ar draws Cymru yn sicrhau bod yr Awr Aur hon yn cael ei chyflawni bob tro.

 

Ym mhle y lleolir yr hofrenyddion?

 

Mae yna dri chriw ‘helimed’ wedi eu lleoli yn y Gogledd (Caernarfon), y Canolbarth (Y Trallwng) a’r De (Abertawe).

 

Pa mor hir mae’n cymryd i ymateb i argyfwng?

 

Mae’n bosib lansio pob un o’r hofrenyddion o fewn 3 munud o dderbyn galwad frys. O’r tair canolfan awyr, gall hofrennydd fod unrhyw le yng Nghymru o fewn prin 20 munud.

 

Faint mae’n costio i gynnal y gwasanaeth?

 

Mae angen i’r elusen godi dros £5 miliwn y flwyddyn i gynnal y  gwasanaeth. Mae’r elusen yn codi’r holl arian sy’n ofynnol ar gyfer gweithredu hediadau o ddydd i ddydd, gyda phob hediad yn costio £1200 ar gyfartaledd.

 

Sut maent yn codi arian?

 

Ariannir Ambiwlans Awyr Cymru gan bobl Cymru, gan ddibynnu ar gefnogaeth y cyhoedd i helpu i’w cadw’n hefan . Nid yw’r elusen yn derbyn arian uniongyrchol o’r llywodraeth ac oherwydd ei fod yn cael ei ystyried  yn wasanaeth brys nid ydynt yn gymwys i gael arian o’r Loteri Genedlaethol ychwaith. Mae’r arian yn cael ei godi felly trwy roddion elusengar, digwyddiadau codi arian, ac aelodaeth o’u loteri achub bywyd.

 

Am fwy o wybodaeth ar sut fedrwch gymryd rhan a chefnogi ffoniwch 0844 85 84 999 neu ewch i www.walesairambulance.com.