
Neidiwch Ar Gyfer Elusen Gyda Skydive Swansea
Mae Skydive Swansea yn cynnig neidiau yn rhad ac am ddim i bobl sydd yn codi arian i elusennau. Drwy hel isafswm o £300 mewn nawdd, bydd yn bosib i chi i blymio o’r awyr mewn tandem, a hynny’n rhad ac am ddim - ar wahân i’r amser sydd yn cael ei wario gennych yn hel addewidion a chasglu’r rhoddion elusennol. Yn naturiol, hoffai’r elusennau i chi hel gymaint o arian â phosib ac mae nifer o bobl yn hel mwy o lawer na’r isafswm angenrheidiol.
Mae £200 o hyn i’w dalu i Skydive Swansea (£30 fel blaendal na sy’n cael ei ad-dalu a £170 ar y diwrnod). Bydd o leiaf £100 o nawdd (sydd hefyd i’w dalu ar y diwrnod) o’ch naid tandem yn mynd i Ambiwlans Awyr Cymru.
Skydive Swansea yw’r unig ardal ollwng yng Nghymru, sydd yn cynnig cyfle i aelodau’r cyhoedd i wneud naid barasiwt tandem o 12,000 o droedfeddi ar gyfer elusen.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.skydiveswansea.co.uk